Rhufeiniaid 11 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Nid oedd gwrthodiad Israel yn hollol.

1Am hynny meddaf, A fwriodd Duw ymaith ei bobl? Na atto Duw: canys yr wyf fi hefyd yn Israeliad o hâd Abraham, o lwyth Benjamin.

2Ni fwriodd Duw ymaith bobl y rhai a rag‐adnabu efe. Oni wyddoch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr yn yr adran am Elias, y modd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,

3O Arglwydd, hwy a laddasant dy brophwydi, ac a gloddiasant i lawr dy allorau, ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.

4Eithr pa beth a ddywed atteb Duw wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant lin i Baal.

5Gan hynny yr un modd y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ol etholedigaeth gras,

6ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach.

7Pa beth, ynte? Yr hyn y mae Israel yn ei daer‐geisio nis cafodd: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd,

8megys y mae yn ysgrifenedig,

Rhoddes Duw iddynt yspryd cysgadrwydd;

Llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd hwn.

9Ac y mae Dafydd yn dywedyd,

Bydded eu bwrdd hwy yn fagl, ac yn rhwyd, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;

10Tywyller eu llygaid fel na welont,

A chydgrymma eu cefn yn wastad.

Rhybudd i'r Cenhedloedd.

11Gan hynny meddaf, A dripiasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw: eithr trwy eu syrthiad hwy ymaith, y mae yr iachawdwriaeth i'r Cenhedloedd er eu gwneyd yn eiddigus,

12ac os yw eu syrthiad ymaith yn olud y byd, a'u syrthiad yn fyr yn olud y Cenhedloedd, pa faint mwy eu cyflawnder?

13Ond wrthych chwi y Cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint a'm bod i gan hynny yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy ngweinidogaeth,

14os mewn un modd y gwnaf yn eiddigus fy nghnawd fy hun, ac achub rhai o honynt.

15Canys os yr ymwrthodiad â hwy yw cymmod y byd, beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?

16Ac os yw y blaenffrwyth yn sanctaidd, y mae y crynswth hefyd; ac os yw y gwreiddyn yn sanctaidd, y mae y canghennau hefyd.

17Ond os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew‐wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gyd‐gyfrannog o wreiddyn brasder yr olew‐wydden,

18nac ymffrostia yn erbyn y canghennau: ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn cynnal y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn.

20Rhagorol! Trwy eu hannghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau wyt yn sefyll trwy dy ffydd! Na fydd uchel‐fryd, eithr ofna;

21canys os nid arbedodd Duw y canghennau naturiol, ni'th arbeda dithau chwaith.

22Gwel gan hynny garedigrwydd a llymder Duw: tuag at y rhai a gwympasant, llymder; tuag attat ti, caredigrwydd Duw, os arhosi yn ei garedigrwydd: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.

23A hwythau hefyd, os nid arhosant mewn annghrediniaeth, a impir i mewn, canys Duw sydd alluog i'w himpio hwy i mewn drachefn.

24Canys os torrwyd di ymaith o'r olew‐wydden wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn olew‐wydden dda, pa faint mwy y bydd i'r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew‐wydden eu hun?

Yr Adferiad Mawr.

25Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain: ddyfod caledwch o ran i Israel, hyd oni ddel cyflawnder y Cenhedloedd i mewn;

26ac felly holl Israel a achubir, fel y mae yn ysgrifenedig,

Daw allan o Sion y Gwaredydd.

28O berthynas, yn wir, i'r efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond mewn perthynas â'r etholedigaeth, anwyliaid ydynt er mwyn y Tadau.

29Canys ni elwir yn ol rad‐ddoniau a galwedigaeth Duw.

30Canys megys y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd‐dod y rhai hyn;

31felly hwythau hefyd yn awr a anufuddhasant, fel y caent hwythau yn awr drugaredd trwy y drugaredd a estynwyd i chwi;

32canys y mae Duw wedi cyd‐gau pawb i anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.

Molawd yr Apostol.

33O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef, a'i ffyrdd, mor anolrheiniadwy ydynt!

34Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu Gynghorwr iddo?

35Neu, pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn?

36Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help