1Wedi ein cyfiawnhâu gan hynny trwy ffydd, bydded gennym heddwch gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist;
2trwy yr hwn hefyd yr ydym wedi cael y ddyfodfa i'r gras hwn yn yr hwn yr ydym yn sefyll yn gadarn, a bydded i ni orfoleddu yng ngobaith gogoniant Duw;
3ac nid hynny yn unig, eithr bydded i ni hefyd orfoleddu yn y gorthrymderau: gan wybod fod gorthrymder yn dadblygu dyoddefgarwch;
4a dyoddefgarwch, gymmeriad profedig; a chymmeriad profedig, obaith:
5a'r gobaith ni ddwg gywilydd, am fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy yr Yspryd Glân yr hwn a roddwyd i ni.
6Canys a nyni etto yn weiniaid, Crist etto mewn pryd a fu farw dros annuwiolion.
7Oblegyd o'r braidd y bydd neb farw dros ddyn cyfiawn; oblegyd dros y dyn
da feallai y beiddiai un hyd y nod farw.8Eithr y mae Duw yn llwyr‐brofi ei gariad ei hun tuag attom ni, gan, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom.
9Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhâu yn ei Waed ef, y'n hachubir trwyddo ef rhag y digofaint.
10Canys os pan yn elynion y'n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymmodi, y'n hachubir yn ei fywyd ef;
11ac nid hynny
yn unig, ond hefyd yr ydym yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y derbyniasom y cymmod.Yn Adda ac yng Nghrist.12Am hynny, megys, ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, o herwydd i bawb bechu:
13canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd, ond ni chyfrifir pechod os na fydd deddf:
14er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses hyd y nod ar y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn oedd gysgodlun o'r Hwn oedd i ddyfod.
15Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu feirw y llawer, mwy o lawer y gor‐ymhelaethodd gras Duw a'r rhodd trwy ras yr un dyn Iesu Grist i'r llawer.
16Ac nid megys trwy un dyn a bechodd, y mae y rhodd; canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.
17Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y caiff y rhai a dderbyniant y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist.
18Gan hynny, yn wir, trwy un camwedd, y canlyniad oedd i bob dyn er condemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y canlyniad oedd i bob dyn er cyfiawnhâd bywyd.
19Canys megys trwy anufudd‐dod yr un dyn y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd‐dod yr un y gwnaethpwyd y llawer yn gyfiawn.
20Ond deddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi y camwedd; ond lle yr amlhâodd pechod, y gor‐ymhelaethodd gras;
21fel, megys y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd teyrnased gras trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.