Philippiaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Galwad i undeb a chariad brawdol.

1Os oes gan hynny ryw gefnogaeth yng Nghrist, os rhyw gymhelliad cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw galon‐dynerwch a thosturiaethau,

2gwnewch fy llawenydd yn gyflawn, fel y byddoch o'r un meddwl, a chennych yr un cariad, o un enaid yn synied yr un peth.

3Na wneler dim trwy ymbleidiaeth neu wag ogoniant, eithr pawb mewn gostyngeiddrwydd meddwl, yn ystyried eraill yn rhagori arnynt eu hunain;

4pob un yn edrych nid ar ei bethau ei hun, ond ar eiddo eraill.

5Bydded ynoch y meddwl hwn, yr hwn hefyd oedd yng Nghrist Iesu,

6yr hwn, ac efe erioed yn ffurf Duw, ni thybiodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w ddal yn gyndyn,

7eithr efe a waghâodd ei hun, gan gymmeryd ffurf gwas, a'i wneyd yng nghyffelybiaeth dynion; a chan ei gael mewn dull fel dyn,

8efe a'i darostyngodd ei hun, gan ddyfod yn ufudd hyd angau, ië, angau y Groes,

9O herwydd paham Duw a'i tra‐dyrchafodd ef, ac a rad‐roddodd iddo yr Enw sydd goruwch pob enw,

10fel yn enw yr Iesu y plygai pob glin, o'r nefolion, a'r daearolion, a'r tan‐ddaearolion,

11ac y cyffesa pob tafod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dâd.

Cynghor a chymmeradwyaeth.

12Am hynny, fy anwyliaid, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid megys yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain.

13Canys Duw sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu er ei foddlonrwydd.

14Gwnewch bob peth heb achwyniadau ac ymddadleuon,

15fel y byddoch yn ddiargyhoedd a didwyll, yn blant Duw, yn ddifeius yng nghanol cenedlaeth ŵyrog a chyfeiliornus, ym mhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd,

16ac yn dal allan air y bywyd, er ymffrost i mi erbyn Dydd Crist, na redais yn ofer, ac na lafuriais yn ofer.

17Ië, os yw fy mywyd i'w dywallt allan fel diod-offrwm ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, yr wyf yn llawenychu, ac yn cyd‐lawenychu â chwi oll.

18Ac yn yr un modd y llawenychwch chwi hefyd, a chyd‐lawenychwch a mi.

Timotheus ac Epaphroditus

19Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus ar fyrder attoch, fel y'm llonner, gan wybod eich helynt:

20canys nid oes gennyf neb o gyffelyb enaid, yr hwn a wir‐ofala am eich helynt;

21canys hwy oll ydynt yn ceisio yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Iesu Grist;

22ond y prawf o hono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thâd y gwasanaethodd ef gyda mi mewn perthynas i'r efengyl.

23Hwn, gan hynny, yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon yn ddioed, cyn gynted ag y gwelwyf beth fydd fy helynt;

24a hyderaf yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd yn fuan attoch.

25Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphroditus, fy mrawd a'm cyd‐weithiwr a'm cyd‐filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i'm hangen innau.

26Canys yr oedd efe yn hiraethu am danoch oll, ac yn athrist, oblegyd i chwi glywed ei fod yn glaf.

27Canys yn wir efe a fu glaf yn agos i angau; eithr Duw a drugarhâodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael o honof dristwch ar dristwch.

28Gyda mwy o awydd felly yr anfonais ef, fel, wedi i chwi ei weled ef, y llawenychech drachefn, a minnau yn llai fy nhristwch.

29Croesaw‐wch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, a deliwch y cyfryw rai mewn anrhydedd;

30canys o herwydd gwaith Crist y bu efe yn agos i angau, gan beryglu ei fywyd, fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn eich gwasanaeth tuag attaf fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help