Actau 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

PENNOD III.Iachau y Cloff, 1–10.

1A Phetr ac Ioan oeddynt yn myned i fyny i'r Deml ar yr Awr Weddi, y nawfed.

2A rhyw wr yr hwn oedd gloff o groth ei fam oedd yn cael ei ddwyn, yr hwn a arferent osod bob dydd wrth Borth y Deml, yr hwn a gyfenwid, Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai oeddynt yn myned i mewn i'r Deml;

3yr hwn, pan welodd Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ofynodd gael elusen.

4A Phetr gan edrych yn graff arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.

5Ac efe a ddaliodd arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.

6A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes i mi, eithr yr hyn sydd genyf, hyn yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist y Nazaread, rhodia.

7Ac wedi cymeryd gafael ynddo gerfydd ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd: ac yn y man ei draed ef a'i fferau a gryfhawyd.

8A chan neidio i fyny, efe a safodd ac a rodiodd o ddeutu; ac a aeth gyda hwynt i'r Deml, yn rhodio o ddeutu, a neidio, a moli Duw.

9A'r holl bobl a'i gwelsant ef yn rhodio o ddeutu ac yn moli Duw:

10ac yr oeddent hwy yn ei adnabod ef, mai efe oedd yr hwn oedd yn eistedd am elusen wrth y Prydferth, Porth y Deml; a hwy a lanwyd â syfrdandod a syndod am yr hyn oedd wedi dygwydd iddo.

Anerchiad Petr, 11–26.

11Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, yr holl bobl a gyd‐redasant atynt i'r Cyntedd a elwir Cyntedd Solomon, wedi eu syfrdanu.

12A Phetr yn gweled hyn, a atebodd i'r bobl, O wyr o Israeliaid, paham y rhyfeddwch at y dyn hwn? neu paham yr edrychwch yn graff arnom ni, fel pe trwy ein gallu neu ein duwioldeb ein hunain yr ydym wedi gwneyd i hwn i rodio?

13Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein Tadau, a ogoneddodd ei Was Iesu, yr hwn yn wir a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch i wyneb Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng yn rhydd.

14Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi wr oedd lofrudd,

15ac Awdwr y Bywyd a laddasoch; yr hwn a gyfododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.

16Ac ar sail y ffydd yn ei Enw ef y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo ef a roddodd iddo yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.

17Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai yn ol eich anwybodaeth y gweithredasoch, yr un modd hefyd eich penaethiaid.

18Eithr y pethau a rag‐fynegodd Duw trwy enau ei holl brophwydi, y dyoddefai ei Grist ef, a gyflawnodd efe fel hyn.

19Edifarhewch gan hyny a thröwch, fel y dilëer eich pechodau, fel y delo y tymhorau o adloniant o wyneb yr Arglwydd;

20ac yr anfono efe y Crist, yr hwn sydd wedi ei benodi i chwi, sef Iesu:

21yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau y llefarodd Duw am danynt trwy enau ei brophwydi sanctaidd erioed.

22Canys Moses a ddywedodd, Yr Arglwydd Dduw a gyfyd i chwi brophwyd o blith eich brodyr, fel myfi; arno ef y gwrandewch yn yr holl bethau a lefaro wrthych.

23A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr‐ddyfethir o blith y bobl.

24Ac hefyd yr holl brophwydi o Samuel a'r rhai dylynol, cynifer ag a lefarasant a fynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25Chwychwi ydych feibion y prophwydi, ac o'r Cyfamod a wnaeth Duw a'ch Tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl deuluoedd y ddaear.

26I chwi yn gyntaf Duw, wedi iddo gyfodi ei Was, a'i hanfonodd ef i'ch bendithio chwi, mewn troi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help