1 Timotheus 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ymadawiad oddiwrth y Ffydd.

1Ond y mae yr Yspryd yn dywedyd yn bendant, yr ymedy rhai mewn amseroedd diweddarach oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,

2trwy ragrith celwyddwyr, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio, megys â haiarn poeth;

3yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd y rhai a greodd Duw i'w derbyn gyda diolchgarwch gan y rhai sydd yn credu ac yn llawn‐wybod y gwirionedd.

4Oblegyd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os derbynnir gyda diolchgarwch;

5oblegyd sancteiddir ef trwy Air Duw a gweddi.

Amryw gynghorion i Timotheus.

6Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi yn weinidog da i Grist Iesu, gan gael dy feithrin yng ngeiriau y ffydd a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dylyn.

7Ond gwrthod chwedlau halogedig a hen‐wreigaidd, eithr ymarfer dy hun i dduwioldeb;

8canys y mae ymarfer corphorol yn fuddiol i ychydig raddau, ond y mae duwioldeb yn fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yn awr, ac o'r hwn sydd ar ddyfod:

9ffyddlawn yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad.

10Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys yr ydym wedi gosod ein gobaith ar y Duw byw, yr hwn yw Iachawdwr pob dyn, yn enwedig y rhai sydd yn credu.

11Y pethau hyn gorchymyn a dysg.

12Na ddiystyred neb dy ieuengctyd di, eithr bydd yn esiampl i'r rhai sydd yn credu, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad,, mewn ffydd, mewn purdeb.

13Hyd oni ddelwyf tal sylw i ddarllen, i gynghori, i athrawiaethu.

14Nac esgeulusa y dawn sydd ynot, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth, gydag arddodiad dwylaw yr Henaduriaeth.

15Bydd ddyfal yn y pethau hyn, aros ynddynt, fel y byddo dy gynnydd yn amlwg i bawb.

16Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgeidiaeth; aros ynddynt, canys wrth wneuthur hyn, ti a achubi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help