2 Timotheus 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Amrywiol annogaethau.

1Tydi gan hynny, fy mhlentyn, ymnerther di yn y gras sydd yng Nghrist Iesu;

2a'r pethau a glywaist gennyf yng ngwydd llawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant gymhwys i ddysgu eraill hefyd.

3Cyd‐oddef adfyd gyda mi

, fel milwr da i Iesu Grist.

4Nid yw yr hwn sydd yn milwrio yn ymddyrysu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i cofrestrodd yn filwr.

5Ac hefyd os ymdrecha neb yn y campau, ni choronir ef onid ymdrecha yn gyfreithlawn.

6Rhaid i'r amaethydd sydd yn llafurio fod y cyntaf i gyfrannogi o'r ffrwythau.

7Ystyria yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, canys yr Arglwydd a ddyry i ti ddeall ym mhob peth.

8Cadw mewn côf Iesu Grist, fel wedi adgyfodi o feirw, o hâd Dafydd, yn ol fy efengyl i,

9yn yr hon yr wyf yn goddef adfyd hyd rwymau, fel drwg‐weithredwr; eithr gair Duw ni rwymwyd.

10O herwydd hyn yr wyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y caffont hwythau hefyd yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragywyddol.

Emyn y merthyron.

11Ffyddlawn yw y gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef;

12os goddefwn, teyrnaswn hefyd gydag ef; os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ni;

13os ydym ni yn anffyddlawn, efe a erys yn ffyddlawn, canys nis gall efe wadu ei hun.

Rhybuddion.

14Dwg y pethau hyn i'w côf, gan eu tynghedu gerbron Duw na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y rhai sydd yn gwrandaw.

15Bydd ddyfal i gyflwyno dy hun yn gymmeradwy i Dduw, yn weithiwr na raid iddo gywilyddio, gan iawn‐gyfrannu gair y gwirionedd.

16Ond cadw draw oddiwrth bob halogedig wag‐siarad, canys ant rhagddynt i fwy o annuwioldeb;

17a'u gair hwy a fwytty yn ddyfnach, fel cancr gwyllt; o'r rhai y mae Hymenëus a Philetus;

18yn rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd fod yr Adgyfodiad wedi cymmeryd lle eisoes, ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.

19Eithr yn wir y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef, a, Pob un sydd yn enwi enw yr Arglwydd, cadwed yn glir oddiwrth annghyfiawnder.

Dau fath o grefyddwyr. Cyfarwyddid i Timotheus.

20Yn awr, mewn tŷ mawr, y mae nid yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i ammharch.

21Os gan hynny, y glanhâ neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei gyssegru, yn gymhwys i wasanaeth y Meistr, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

22Ond chwantau ieuengctyd, ffo oddiwrthynt, a dylyn ar ol cyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.

23Eithr gochel ynfyd ac anwybodus gwestiynau, gan wybod eu bod yn cynnyrchu ymrafaelion;

24ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymrafaelio, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn amyneddgar yn wyneb cam,

25mewn addfwynder yn hyfforddi y rhai gwrthwynebus, os byth y rhydd Duw iddynt edifeirwch i lawn‐adnabyddiaeth o'r gwirionedd,

26ac ymddadebru i sobrwydd allan o fagl y Diafol, wedi eu dal ganddo ef i'w ewyllys ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help