1Ai dechreu drachefn i gymmeradwyo ein hunain yr ydym? neu a oes arnom raid, fel ar rai, wrth lythyrau o gymmeradwyaeth attoch neu oddiwrthych?
2Ein llythyr ni ydych chwi, wedi ei ysgrifennu yn ein calonnau, yn ddealledig ac yn ddarllenedig gan bob dyn,
3wedi ei wneuthur yn amlwg eich bod yn llythyr Crist, wedi ei weini gennym, wedi ei ysgrifennu, nid âg ingc, ond âg Yspryd y Duw byw; nid mewn llechau o gerrig, ond mewn llechau ydynt galonnau o gnawd.
4A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw;
5nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i gyfrif unrhyw beth megys o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw,
6yr hwn hefyd a'n gwnaeth yn ddigonol fel gweinidogion cyfammod newydd, nid i'r llythyren eithr i'r yspryd; canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr yspryd yn bywhâu.
7Ond os bu gweinidogaeth angau, wedi ei cherfio mewn llythyrennau ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn oedd yn diflannu,
8pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr yspryd gyda gogoniant?
9Canys os bu gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.
10Canys yn wir ni wnaethpwyd yn ogoneddus yr hyn a wnaethpwyd yn ogoneddus yn yr ystyr hyn, o achos y gogoniant tra‐rhagorol.
11Canys os yw yr hyn sydd yn diflannu gyda gogoniant, mwy o lawer y mae yr hyn sydd yn aros mewn gogoniant.
12Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr;
13ac nid fel y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai meibion Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddiflannai;
14eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros, gan nad yw wedi ei ddadguddio ei fod wedi ei ddileu yng Nghrist.
15Eithr hyd heddyw, pan ddarllenir Moses, y mae y gorchudd ar eu calon hwynt;
16eithr pan dry at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
17Yn awr, yr Arglwydd yw yr Yspryd, a lle y mae Yspryd yr Arglwydd y
mae rhyddid.18Eithr nyni oll ag wyneb diorchudd, gan edrych megys mewn drych, megys oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.