1Parhaed brawdgarwch.
2Nac anghofiwch letygarwch i ddyeithriaid, canys trwyddo y lletyodd rhai angelion yn ddiarwybod.
3Cofiwch y rhai mewn rhwymau, fel rhai wedi eu rhwymo gyd a hwynt; y rhai a ddrygir, megys eich bod eich hunain hefyd yn y corph.
4Bydded
fod priodas yn anrhydeddus ym mhawb, a'r gwely yn ddihalog; eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw.5Bydded
eich tueddfryd yn ddiariangar, gan fod yn foddlawn ar y pethau sydd gennych, canys efe ei hun a ddywedodd, Ni'th ollyngaf di o'm gafael o gwbl, ac ni'th adawaf ddim;6fel y gallom ddywedyd yn wrol,
Yr Arglwydd sydd gynorthwywr i mi, nid ofnaf.
Pa beth a wna dyn i mi?
Dyledswyddau Crefyddol.7Cofiwch eich arweinwyr, yn gyfryw ag a lefarasant i chwi air Duw; a chan ddwys‐ystyried terfyniad eu buchedd, efelychwch eu ffydd.
8Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd.
9Na chluder chwi ymaith gan athrawiaethau amrywiol a dyeithr; canys gwych yw bod y galon wedi ei sefydlu â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni lesâwyd y rhai a rodient ynddynt.
10Y mae gennym allor o'r hon nid oes awdurdod gan y rhai a wasanaethant y tabernacl i fwyta.
11Canys yr anifeiliaid, y rhai y dygir eu gwaed i mewn i'r cysegr am bechod gan yr Archoffeiriad, cyrph y rhai hyn a losgir yn hollol tu allan i'r gwersyll:
12o herwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai y bobl trwy ei waed priod ei hun, a ddyoddefodd tu allan i'r porth.
13Am hynny, awn allan ato ef tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef;
14canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, eithr yr ydym yn dyfal‐geisio yr hon sydd yn dyfod.
15Trwyddo ef gan hynny offrymwn i fyny aberth moliant yn wastadol i Dduw, hynny yw, ffrwyth gwefusau yn cyffesu i'w enw ef.
16Ac nac anghofiwch y cymwynasgarwch a'r cyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
Cyfarwyddiadau personol.17Ufuddhêwch i'ch arweinwyr, ac ymostyngwch iddynt; oblegyd y maent hwy yn effro i wylied ar ran eich eneidiau, megys rhai a roddant gyfrif; fel gyd a llawenydd y gwnelont hyn ac nid gan alaru. Canys difudd i chwi yw hynny.
18Gweddïwch drosom, canys yr ydym yn argyhoeddedig fod gennym gydwybod lân, gan ewyllysio ym mhob peth ymfucheddu yn hardd.
19Ac yn helaethach yr wyf yn eich cymhell i wneuthur hyn, fel y'm hadferer i chwi yn gynt.
20Ond Duw yr heddwch, yr hwn a ddygodd i fyny o blith y meirw Fugail Mawr y defaid, yng ngwaed cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu,
21a'ch perffeithio ym mhob da er gwneuthur ei ewyllys, gan weithredu ynom yr hyn sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22Ond cynghoraf chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor; canys ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch.
23Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ollwng yn rhydd, gyda'r hwn, os daw efe yn fuan, y gwelaf chwi.
24Anerchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch.
25Gras fyddo gyda chwi oll. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.