1Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd a Saith Yspryd Duw a'r saith seren ganddo yn eu dywedyd: Mi a adwaen dy weithredoedd di, fod gennyt ti enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt.
2Bydd wyliadwrus, a sefydla y pethau sydd yng ngweddill, y rhai oeddynt ar farw; canys ni chefais weithredoedd o'th eiddot wedi eu cyflawnu ger bron fy Nuw.
3Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw ac edifarhâ. Os tydi gan hynny ni wyli, deuaf fel lleidr, ac ni wybyddi ddim pa awr y deuaf arnat.
4Eithr y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt.
5Yr hwn sydd yn gorchfygu a wisgir fel hyn mewn dillad gwynion; ac ni ddilëaf mewn un modd ei enw ef allan o Lyfr y Bywyd, a chyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angelion ef.
6Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
Y Llythyr at Philadelphia.7Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelphia ysgrifenna: Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Gwirioneddol, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac ni chaua neb; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd.
8Mi a adwaen dy weithredoedd (wele, yr wyf wedi rhoddi o'th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau), mai ychydig nerth sydd gennyt, a chedwaist fy ngair i, ac ni wedaist fy enw.
9Wele, gwnaf i'r rhai o Synagog Satan (y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddog ydynt), wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di.
10O herwydd i ti gadw gair fy amynedd i, minnau hefyd a'th gadwaf di oddi wrth awr y prawf, yr hwn sydd ar ddyfod ar yr holl ddaear, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear.
11Yr wyf yn dyfod ar frys; dal yn dŷn yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di.
12Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yng Nghysegr fy Nuw i, ac allan oddi yno nid ä efe mwyach; ac ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw Dinas fy Nuw i, y Jerusalem Newydd, yr hon sydd yn dyfod i lawr o'r nef oddiwrth fy Nuw i, ac enw newydd fy hun.
13Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
Y Llythyr at Eglwys Laodicea.14Ac at angel yr eglwys yn Laodicea ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlawn a gwirioneddol, Dechreuad, ac nid yn oer nac yn frwd, yr wyf ar fedr dy chwydu allan o'm genau.
17Oblegyd dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac yr wyf wedi myned yn oludog, ac nid oes arnaf eisieu dim; ac ni wyddost mai yr un truenus ydwyt, a gresynol, a thlawd, a dall, a noeth;
18yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei goethi trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad amlyger gwarth dy noethder di; ac eli llygaid i eneinio dy lygaid, fel y gweli.
19Yr wyf yn argyhoeddi ac yn dysgyblu y sawl yr wyf yn eu hoffi. Bydd yn selog gan hynny, ac edifarhâ.
20Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agoryd y drws, deuaf i mewn ato ef, ac a wleddaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.
21Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, fel y gorchfygais innau ac yr eisteddais i gyda fy Nhâd ar ei Orsedd ef.
22Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.