Matthew 27 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Traddodi Crist i'r Gallu Gwladol.[Marc 15:1; Luc 23:1, 2; Ioan 18:28–32]

1A phan ddaeth y boreu, cydymgynghorodd yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.

2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i harweiniasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pilat y Rhaglaw.

Hunanladdiad Judas.

3Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu ddrwg ganddo, ac a ddychwelodd y deg ar hugain arian i'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid,

4gan ddywedyd, Pechais trwy fradychu gwaed gwirion. Eithr hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Ti a edrychi at hyny.

5Ac wedi iddo daflu yr arian i'r Cyssegr, efe a ymadawodd; ac efe a aeth ymaith, ac a ymdagodd.

6A'r Arch‐offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn eu bwrw hwynt i'r Drysorfa Gyssegredig, canys pris gwaed ydynt.

7Ac wedi iddynt gyd‐ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt Faes y Crochenydd, er bod yn gladdfa dyeithriaid.

8Am hyny y galwyd y maes hwnw, Maes y Gwaed hyd heddyw.

9Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremiah y Proffwyd, gan ddywedyd,

A hwy a gymmerasant y deg‐ar‐hugain arian, pris y prisiedig,

Yr hwn a brisiasai rhai o feibion Israel:

10A hwy a'u rhoisant am Faes y Crochenydd,

Megys yr ordeiniodd yr Arglwydd i mi.

Cyffesiad Crist ei fod yn Frenin[Ioan 18:33–38]

11A'r Iesu a osodwyd gerbron y Rhaglaw: a'r Rhaglaw a'i holodd ef, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

12A phan gyhuddid ef gan yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, nid atebodd efe ddim.

13Yna y dywed Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent yn dystiolaethu yn dy erbyn di?

14Ac nid atebodd efe iddo hyd y nod un gair, fel y rhyfeddodd y Rhaglaw yn fawr.

Gwrthodiad Crist[Marc 15:6–15; Luc 23:23–25; Ioan 18:38–40; 19:4–16]

15Ac ar wyl yr arferai y Rhaglaw ryddhau un carcharor i'r bobl, yr hwn a fynent.

16A'r pryd hwnw yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

17Wedi iddynt, gan hyny, ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? Barabbas ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist?

18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.

19Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnw: canys dyoddefais heddyw lawer o bethau mewn breuddwyd o'i achos ef.

20A'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a gymhellasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y dyfethent yr Iesu.

21A'r Rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabbas.

22A Philat a ddywed wrthynt, Pa beth gan hyny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedant, Croeshoelier ef.

23Ac efe a ddywedodd, Wel, pa ddrwg a wnaeth efe? Eithr hwy a lefasant yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24Felly Pilat pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynhwrf yn cyfodi, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, Diniwed ydwyf fi o waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed Ef arnom ni ac ar ein plant.

26Yna efe a ryddhaodd iddynt Barabbas; eithr yr Iesu a fflangellodd efe, ac a draddododd i'w groeshoelio.

Gwatwar Crist[Marc 15:16–19; Ioan 19:1–3]

27Yna milwyr y Rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r Palas Ymherodrol, ac a gynullasant ato yr holl gatrawd.

28A hwy a'i diosgasant Ef, ac a roisant am dano Ef fantell o ysgarlad.

29Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben Ef, a chorsen yn ei law ddeheu; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron Ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Ti Frenin yr Iuddewon.

30A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i tarawsant Ef ar ei ben.

31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant Ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant Ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant Ef ymaith i'w groeshoelio.Y Croeshoeliad[Marc 15:20–28; Luc 23:26–34; Ioan 19:16–24]

32Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a orfodasant, fel y dygai ei groes.

33A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle Penglog,

34hwy a roisant iddo i'w yfed win yn gymmysgedig â wermod; ac wedi ei brofi, ni fynodd Efe yfed.

35Ac wedi iddynt ei groeshoelio Ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren.

36A chan eistedd i lawr, hwy a'i gwyliasant Ef yno.

37A gosodasant uwch ei ben Ef ei gyhuddiad yn ysgrifenedig,

Hwn yw Iesu, Brenin yr Iuddewon.

38Yna y croeshoelir gydag Ef ddau yspeiliwr, un ar y llaw ddeheu, ac un ar y llaw aswy.

Ei Gablu[Marc 15:29–32; Luc 23:35–43]

39A'r rhai oeddynt yn myned heibio oeddynt yn ei gablu Ef,

40gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y Cyssegr, ac mewn tridiau a'i adeiledi, gwared dy hun: os Mab Duw ydwyt ti, disgyn oddiar y groes.

41A'r un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r Ysgrifenyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant,

42Ereill a waredodd Efe, ei hun nis gall Efe waredu. Brenin Israel yw: disgyned yr awrhon oddiar y groes, ac ni a gredwn arno.

43Y mae yn ymddiried yn Nuw: gwareded Efe Ef yr awrhon, os myn Efe Ef; canys Efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf fi.

44A'r un peth hefyd a edliwiodd yr yspeilwyr iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd ag Ef.Ei ing a'i Angeu[Marc 15:33–41; Luc 23:44–49; Ioan 19:28–37]

45Ac o'r chweched awr yr oedd tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

46Ac yn nghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd,

Eli, Eli, lema sabachthani;

yr hyn yw,

Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm llwyr adewaist.

47A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw Elias.

48Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd Ef.

49Eithr y lleill a ddywedasant, Aros, edrychwn a ydyw Elias yn dyfod i'w waredu Ef.

50A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.

51Ac wele, Llen y Cyssegr a rwygwyd oddifyny i waered yn ddau; a'r ddaear a grynodd; a'r creigiau a rwygwyd,

52a'r beddau a agorwyd, a llawer o gyrff y saint a hunasant a gyfodwyd;

53ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei Gyfodiad Ef, ac a aethant i mewn i'r Ddinas Sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

54A'r Canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a ddygwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd Mab Duw oedd hwn.

55Ac yr oedd yno wragedd lawer yn syllu o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef.

56Yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joseph, a mam meibion Zebedëus.

Ei Gladdu[Marc 15:42–47; Luc 23:50–56; Ioan 19:38–42]

57A phan ddaeth yr hwyr, daeth gwr goludog o Arimathëa, a'i enw Joseph, yr hwn ei hun hefyd a wnaed yn ddysgybl i'r Iesu.

58Hwn a ddaeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. Yna Pilat a orchymynodd ei roddi i fyny.

59A chan gymmeryd y corff, Joseph a'i hamdôdd mewn llian glân,

60ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, efe a aeth ymaith.

61A Mair Magdalen oedd yno, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.

Gwneyd y Bedd yn Ddyogel.

62A thranoeth, yr hwn sydd ar ol dydd y Darpariad, ymgasglodd yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid at Pilat,

63gan ddywedyd, Arglwydd, daeth i'n cof ddywedyd o'r Twyllwr hwnw, tra yr oedd efe etto yn fyw, Wedi tridiau yr wyf yn cyfodi gael ei wneyd yn ddyogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o'i Ddysgyblion a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.

65Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch warcheidwaid: ewch ymaith; gwnewch mor ddyogel ag y medrwch.

66A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddyogel, ac a seliasant y maen, gyda'r gwarcheidwaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help