1Ac efe a aeth drachefn i Capernaum wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fod ef yn y ty;
2a llawer a ymgasglasant ynghyd, fel nad oedd lle iddynt mwyach, hyd y nod o gylch y drws: ac efe a lefarodd y gair iddynt.
3A hwy a ddaethant ato gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
4A chan na allent neshâu ato ef o herwydd y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dori trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely ar yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys.
5A'r Iesu, yn gweled eu ffydd hwy, a ddywed wrth y claf o'r parlys, O Fab! maddeuir dy bechodau.
6Ac yr oedd rhai o'r Ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonau;
7Paham y llefara hwn felly? Y mae yn cablu. Pwy all faddeu pechodau ond Un, sef Duw?
8Ac yn ebrwydd a'r Iesu yn gwybod yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch y pethau hyn yn eich calonau?
9Pa un hawddach, dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fyny dy wely, a rhodia?
10Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywed wrth y claf o'r parlys,
11Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.
12Ac efe a gyfododd, ac yn ebrwydd y cymmerodd i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
Yn galw Matthew[Mat 9:9–13; Luc 5:27–32]13Ac efe a aeth allan drachefn wrth làn y môr: a'r holl dyrfa oedd yn dyfod ato, ac efe a'u dysgodd hwynt.
14Ac efe yn myned rhagddo, efe a ganfu Lefi, mab Alpheüs, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywed wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd ac a'i canlynodd ef.
15A dygwydd iddo eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, a llawer o Drethgasglwyr a phechaduriaid a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion: canys llawer oeddynt.
16A'r Ysgrifenyddion o'r Phariseaid hefyd a'i canlynent: ac yn gweled ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r Trethgasglwyr, hwy a ddywedasant wrth ei Ddysgyblion ef, Y mae efe yn bwyta gyda y Trethgasglwyr a'r pechaduriaid.
17A'r Iesu, pan glybu, a ddywed wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai sydd gleifion: ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid y Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion y briodas‐ystafell ymprydio, tra y mae y priodas‐fab gyda hwynt? Tra fyddo ganddynt y priodas‐fab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
20Ond dyddiau a ddeuant, pan ddygir y priodas‐fab oddiwrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnw.
21Ni wnïa neb ddernyn o lain o frethyn cri ar ddilledyn hên: os amgen, y mae yr hyn‐a‐leinw‐i‐fyny yn tynu oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hên, a gwaeth rhwyg a ddygwydd.
22Ac ni thywallt neb win newydd i hen gostrelau lledr: os amgen, y gwin a rwyga y costrelau lledr, a'r gwin a gollir a'r costrelau lledr: eithr rhaid tywallt gwin newydd i gostrelau lledr newyddion.
Crist yn amddiffyn ei Ddysgyblion am dynu tywys ar y Sabbath[Mat 12:1–8; Luc 6:1–5]23A bu iddo ar y dydd Sabbath fyned trwy y meusydd yd; a'i Ddysgyblion ef a ddechreuasant wneyd iddynt lwybr, gan dynu y tywys.
24A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?
25Ac efe a ddywed wrthynt, Ai ni ddarllenasoch erioed yr hyn a wnaeth Dafydd, pan yr oedd angen arno a chwant bwyd, efe a'r rhai oedd gydag ef?
26Y modd yr aeth efe i Dy Dduw, pan yr oedd Abiathar yn Arch‐offeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwyta, ond i'r offeiriaid; ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef?
27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Sabbath.
28Felly Arglwydd ydyw Mab y Dyn hyd y nod ar y Sabbath.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.