1Ac am ddoniau
ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod.2Chwi a wyddoch pan oeddych genhedloedd, arweinid chwi ymaith at yr eilunod mudion, ym mha fodd bynnag y'ch arweinid.
3Gan hynny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru yn Yspryd Duw yn dywedyd, Anathema yw'r Iesu; ac ni all neb ddywedyd, Iesu sydd Arglwydd, ond yn yr Yspryd Glân.
4Ac y mae gwahanol fathau o ddoniau, eithr yr un Yspryd;
5ac y mae gwahanol fathau o weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd;
6ac y mae gwahanol fathau o weithrediadau, ond yr un Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7Ac i bob un y rhoddir eglurhâd yr Yspryd er lleshâd.
8Canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd;
9i arall, ffydd, yn yr un Yspryd; ac i arall, ddoniau i iachau, yn yr un Yspryd;
10ac i arall, alluoedd i wneuthur gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, ddirnadaeth o ysprydoedd; ac i arall, mathau o dafodau dyeithr; ac i arall ddeongliad tafodau dyeithr.
11A'r holl bethau hyn y mae yr un a'r unrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un ar ei ben ei hun fel yr ewyllysia.
Y Corph yn un, a'r Eglwys yn un.12Canys fel y mae y corph yn un, a chanddo aelodau lawer, a holl aelodau y corph, a hwy yn llawer, ydynt un corph; felly hefyd y mae Crist.
13Canys yn wir mewn un Yspryd y bedyddiwyd ni oll i un corph, pa un bynnag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion, a nyni oll a wnaed i yfed o un Yspryd.
14Canys yn wir y corph nid yw un aelod, eithr llawer.
15Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.
16Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.
17Pe yr holl gorph fyddai lygad, pa le y byddai y clywed? Pe'r oll fyddai glywed, pa le y byddai yr arogliad?
18Ond yn awr Duw a osododd yr aelodau bob un o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe.
19A phe bae yr oll yn un aelod, pa le y byddai y corph?
20Ond yn awr, llawer yw yr aelodau, eithr un corph.
21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na thrachefn y pen wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
22Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph sydd yn ymddangos yn wannach, ydynt angenrheidiol;
23a'r rhannau o'r corph a dybiwn ni eu bod yn llai anrhydeddus, y rhai hyn a wisgwn nid oes angen; eithr Duw a gyd‐dymherodd y corph, gan roddi anrhydedd helaethach i'r rhan oedd ddiffygiol;
25fel na byddai rhwyg yn y corph, ond fel y byddai gan yr aelodau yr un gofal am eu gilydd.
26Ac os dyoddef a wna un aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐ddyoddef; neu os gogoneddir aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐lawenhau.
27A chwychwi ydych gorph Crist ac aelodau o ran.
28A rhai, yn wir, a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, prophwydi; yn drydydd, athrawon; yna, galluoedd gwyrthiol; yna, doniau i iachâu; cynnorthwyon; llywodraethau gwyrthiau?
30A oes gan bawb ddoniau i iachâu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn deongli?
31Eithr byddwch eiddigeddus am y doniau mwyaf Ac ym mhellach, yr wyf yn dangos i chwi ffordd sydd dra‐rhagorol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.