Dadguddiad Ioan 4 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Nefoedd Agored: Gorsedd Duw.

1Ar ol y pethau hyn gwelais, ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef, a'r llais cyntaf yr hwn a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, yn dywedyd, Tyred i fyny yma, a danghosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddygwydd ar ol hyn.

2Yn ebrwydd yr oeddwn yn yr Yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr Orsedd Un yn eistedd;

3a'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iaspis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus.

4Ac o gylch yr Orsedd yr oedd pedair gorsedd ar hugain, ac ar y gorseddau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion; ac ar eu pennau goronau aur.

5Ac o'r Orsedd y mae yn dyfod allan fellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o ffaglau tân oedd yn llosgi ger bron yr Orsedd, y rhai yw saith Yspryd Duw.

6Ac o flaen yr Orsedd yr oedd fel pe bai môr o wydr, yn debyg i risial; ac yng nghanol yr Orsedd, ac yng nghylch yr Orsedd yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ol.

7A'r creadur cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail greadur yn debyg i lo, a'r trydydd creadur oedd ganddo wyneb fel eiddo dyn, a'r pedwerydd creadur oedd debyg i eryr yn ehedeg.

8A'r pedwar creadur byw, a chanddynt chwech o adenydd bob un, ydynt yn llawn llygaid o amgylch ac oddi fewn; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, yw yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn oedd, a'r Hwn sydd, a'r Hwn sydd yn dyfod Harglwydd a'n Duw, i dderbyn y gogoniant, a'r anrhydedd, a'r gallu: canys ti a greaist bob peth, ac o herwydd dy ewyllys di yr oeddent, ac y crewyd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help