1Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuom mai Melita y gelwir yr ynys.
2A'r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch anghyffredin: canys cyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll yn roesawgar, o herwydd y gwlaw oedd yn disgyn ac o herwydd yr oerfel.
3Ond wedi i Paul gasglu ynghyd rhyw lawer o friw‐wydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o achos y gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.
4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, hwy a ddywedasant y naill wrth y llall, Yn ddios llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, er ei ddyfod yn ddyogel o'r môr, Cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.
5Ond efe yn wir gan hyny a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6Ond yr oeddent hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymwth yn farw: eithr pan oeddent yn hir‐ddisgwyl, ac yn gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.
7Ac o gylch y lle hwnw yr oedd tiroedd yn perthyn i Benaeth yr ynys, o'r enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletyodd dridiau yn garedig.
8A dygwyddodd fod tâd Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn yr aeth Paul i mewn ac y gweddïodd; a chan ddodi ei ddwylaw arno efe a'i hiachâodd.
9Ac wedi i hyn gymeryd lle, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chlefydau arnynt, a ddaethant ato ac a wellhawyd:
10y rhai hefyd a'n hanrhydeddasant ni â llawer o anrhydedd, a phan hwyliasom, hwy a osodasant ar y bwrdd y pethau anghenrheidiol.
O Melita i Rufain, 11–15.11Ac wedi tri mis ni a hwyliasom mewn llong yn perthyn i Alexandria, yr hon oedd wedi gauafu yn yr ynys, arwydd yr hon ydoedd Yr Efylliaid.
12Ac wedi ein dyfod i Syracus, arosasom yno dridiau.
13Ac oddiyno wedi myned o amgylch, ni a gyrhaeddasom i Rhegium: ac ar ol un diwrnod cyfododd deheu‐wynt, ac ni a ddaethom yr eil‐ddydd i Puteoli:
14lle y cawsom frodyr, a'n hanog i aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.
15Ac oddiyno y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i'n cyfarfod ni mor bell a Marchnad Appius a'r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd galon.
Paul yn Rhufain, 17–31.16A phan ddaethom i Rufain, caniatawyd i Paul aros wrtho ei hun gyda y milwr oedd yn ei gadw ef.
17A dygwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ef ynghyd ato ei hun y rhai oedd benaf o'r Iuddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y Bobl na defodau ein Tadau, eto yn garcharor y'm rhoddwyd o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr:
18y cyfryw, wedi iddynt fy holi, a ewyllysient fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim achos angau ynof.
19Ond yr Iuddewon yn gwrth‐ddywedyd, fe'm gorfodwyd i apelio at Cesar; nid fel petai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono.
20Am yr achos hwn gan hyny y gwahoddais chwi, i'ch gweled ac i ymddyddan a chwi
; canys o herwydd Gobaith Israel yr wyf fi wedi fy rhwymo o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat di.22Ond yr ydym ni yn ei hystyried yn iawn i glywed genyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: canys yn wir am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod yn mhob man ddywedyd yn ei herbyn.
23Ac wedi iddynt drefnu diwrnod iddo, daeth llawer o honynt ato i'w lety; i'r rhai yr eglurodd efe gan dystiolaethu Teyrnas Dduw, a'u hargyhoeddi ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Moses, ac o'r Prophwydi, o'r bore hyd yr hwyr.
24A rhai yn wir a argyhoeddwyd gan y pethau a ddywedwyd, a rhai ni chredasant.
25Ac a hwy yn anghytun a'u gilydd, hwy a ymadawsant, a Phaul yn dywedyd un gair, Da y llefarodd yr Yspryd Glân trwy Esaiah y Prophwyd wrth eich Tadau,
26gan ddywedyd,
Dos at y Bobl hyn, a dywed,
Trwy glywed y clywch, ac ni ddeallwch o gwbl;
A chan weled y gwelwch, ac ni chanfyddwch o gwbl:
27Canys brashawyd calon y Bobl hyn,
Ac a'u clustiau yn drwm y clywsant,
A'u llygaid a gauasant,
Rhag canfod o honynt â'u llygaid,
A chlywed â'u clustiau,
A deall â'u calon,
A throi o honynt drachefn,
Ac iachâu o honof hwynt.
28-29Bydded hyspys i chwi gan hyny fod yr Iachawdwriaeth hon o eiddo Duw wedi ei danfon i'r Cenhedloedd: a hwy a wrandawant.
30Ac efe a arosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dy ardrethol ei hun, ac a roesawodd bawb a oedd yn myned i mewn ato,
31gan bregethu Teyrnas Dduw, a dysgu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddirwystr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.