Actau 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Anerchiad, 1–5

1Y Traethawd cyntaf a wnaethum, O Theophilus, am bob peth a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu,

2hyd y dydd y cymerwyd Ef i fyny, wedi iddo roddi gorchymyn trwy yr Yspryd Glân i'r Apostolion, y rhai a etholasai Efe:

3i'r rhai hefyd y dangosodd ei hun yn fyw ar ol ei Ddyoddefaint trwy lawer o arwyddion sicr, gan ymddangos iddynt ar hyd deugain niwrnod, a dywedyd y pethau am Deyrnas Dduw,

4a chan ymgynull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl o honynt am Addewid y Tad, yr hon, eb efe, a glywsoch genyf fi:

5canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân, nid ar ol llawer o'r dyddiau hyn.

Yr Esgyniad — 6–11

6Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a wyt ti yn yr amser hwn yn adferu y Deyrnas i Israel?

7Dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd neu'r prydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn cylch ei awdurdod ei hun.

8Eithr chwi a dderbyniwch allu, pan ddelo yr Yspryd Glân arnoch, a chwi a fyddwch fy nhystion i yn Jerusalem, ac yn holl Judea a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.

9Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a gymerwyd i fyny, a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg.

10Ac fel yr oeddent yn edrych yn ddyfal i'r Nef, ac efe yn myned, wele, dau wr oedd yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion,

11y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd y gwelsoch ef yn myned i'r Nef.

Y Dychweliad i Jerusalem: llanw y swydd wag, 12–26

12Yna y dychwelasant i Jerusalem o Fynydd a elwir yr Olew‐wydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, taith diwrnod Sabbath.

13A phan ddaethant i mewn, hwy a aethant i fyny i'r Oruwch‐ystafell, lle yr oeddent yn aros; Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon y Zelotiad, a Judas mab

.

14Y rhai hyn oll oedd yn dyfal‐barhau yn unfryd mewn gweddi, gyda rhai gwragedd, a Mair, mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.

15Ac yn y dyddiau hyny Petr a gyfododd i fyny yn nghanol y brodyr, ac a ddywedodd, (ac yr oedd lliaws o bersonau yn yr un lle, ynghylch cant ac ugain),

16O Frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr ysgrythyr a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Judas, yr hwn a aeth yn arweinydd i'r rhai a ddaliasant yr Iesu.

17Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, a derbyniodd ei ran o'r weinidogaeth hon.

18(Hwn yn wir ddaeth i feddiant o faes trwy wobr ei anwiredd; ac wedi syrthio yn wysg ei ben, a ymholltodd yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan.

19Ac aeth hyn yn hyspys i bawb oedd yn preswylio yn Jerusalem; yn gymaint ag y gelwid y maes hwnw yn eu hiaith eu hunain, Acheldamach, hyny yw, Maes y Gwaed.)

20Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau,

Aed ei drigfan yn anghyfanedd,

Ac na fydded a breswylio ynddi;

Ac hefyd,

Cymered arall ei oruchwyliaeth

21O'r gwyr gan hyny a fu yn cydymdaith â ni drwy yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan o'n blaen,

22gan ddechreu o Fedydd Ioan hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny oddiwrthym — y mae yn rhaid i un o'r rhai hyn i fod gyda ni yn dyst o'i Adgyfodiad.

23A hwy a osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a elwid Barsabbas, yr hwn a gyfenwid Justus, a Matthias.

24A chan weddïo hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, adnabyddwr calonau pawb, dangos o'r ddau hyn yr hwn a ddewisaist

25i gymeryd y lle yn y weinidogaeth a'r Apostolaeth hon, o'r hon y syrthiodd Judas ymaith i fyned i'w le ei hun.

26A hwy a fwriasant goelbrenau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthias, ac efe a gyfrifwyd gyda'r un Apostol ar ddeg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help