Philemon 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Y Cyfarchiad.

1Paul, carcharor Crist Iesu, a Thimotheus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a'n cyd‐weithiwr,

2ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd‐filwr, a'r eglwys sydd yn dy dŷ di:

3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

Ffydd a chariad Philemon.

4Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastadol, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddiau,

5gan glywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint —

6fel y bo i gymdeithas dy ffydd ddyfod yn effeithiol, trwy lawn‐adnabyddiaeth o bob peth da sydd ynom ni, tuag at Grist.

7Canys cefais lawer o lawenydd a dyddanwch yn dy gariad di, o herwydd i galonnau y saint gael eu hadlonni trwot ti, frawd.

Onesimus

8O herwydd paham, er fod gennyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd gyfaddas,

9o achos cariad yn hytrach yr wyf yn attolwg, a mi yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu;

10yr wyf yn attolwg ti ynghylch fy mhlentyn, yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus,

11yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond sydd yn awr i ti ac i minnau yn fuddiol,

12yr hwn a ddanfonais yn ol attat, efe ei hun, hynny yw, fy nghalon fy hun;

13yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi, fel ar dy ran y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl;

14eithr heb dy feddwl di ni ddymunwn wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megys o anghenrhaid ond o wirfodd.

15Canys o herwydd hyn, efallai, y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser byr fel y byddai gennyt am byth;

16nid fel caethwas mwyach, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn bennaf i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?

17Os wyt ti gan hynny yn fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr a thi, derbyn ef fel myfi.

18Ond os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yn dy ddyled, dyro hynny at fy nghyfrif i;

19myfi Paul a ysgrifennaf â'm llaw fy hun, Myfi a dalaf: fel na ddywedwyf wrthyt dy fod yn ddyledus i mi ym mhellach am danat dy hun.

20Ie, frawd, gâd i mi dderbyn llês oddiwrthyt yn yr Arglwydd; adlonna fy nghalon yng Nghrist.

21Gan hyderu ar dy ufudd‐dod yr ysgrifennaf attat, gan wybod y gwnei, ië, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.

22Heblaw hyn hefyd, parottoa i mi letty: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y caniateir i mi ddyfod attoch.

23Y mae yn dy gyfarch Epaphras fy nghyd‐garcharor yng Nghrist Iesu;

24Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd‐weithwyr.

25Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch yspryd chwi. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help