Ioan 6 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Porthi y pum' mil[Mat 24:13–21; Marc 6:30–44; Luc 9:13–17]

1Wedi y pethau hyn aeth yr Iesu ymaith yn groes i Fôr Galilea, sef Tiberias.

2A thyrfa fawr oedd yn ei ganlyn ef, canys yr oeddynt yn dal sylw ar ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.

3Ond yr Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac yno efe a eisteddodd gyd â'u Ddysgyblion.

4A'r Pasc, Gŵyl yr Iuddewon, oedd yn agos.

5Am hyny yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfyddodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd wrth Philip, O ba le y gallwn brynu bara, fel y bwytâo y rhai hyn?

6A hyn a ddywedodd efe, gan ei brofi ef: canys efe ei hun a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.

7Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can denarion, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw y rhai hyn i gymaint?

10Yr Iesu a ddywedodd, Gwnewch i'r gwrywod orwedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y lle. Am hyny y gwŷr a orweddasant i lawr mewn nifer ynghylch pum mil.

11Yr Iesu gan hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhanodd i'r rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod cymaint ag a fynent.

12A phan y digonwyd hwynt, efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Cesglwch ynghyd y darnau toredig sydd yn ngweddill, fel na choller dim.

13Am hyny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o'r darnau toredig o'r pum torth haidd, y rhai oedd dros ben i'r rhai a fwytasant.

14Am hyny y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaeth yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd sydd yn dyfod i'r byd.

Crist yn rhodio ar y mor[Mat 14:22–36; Marc 6:45–53]

15Yr Iesu gan hyny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod hyd y nod i'w gipio ymneillduodd drachefn i'r mynydd, wrtho ei hun.

16A phan ddaeth yr hŵyr, ei Ddysgyblion ef a aethant i waered at y môr;

17a hwy a aethant i gwch, ac yr oeddynt yn myned yn groes i'r môr i Capernäum. Ac yr oedd y cyfnos weithian wedi dyfod, a'r Iesu nid oedd eto wedi dyfod atynt.

18A'r môr fel yr oedd gwynt mawr yn chwythu, oedd yn cyffroi

19Gan hyny, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, y maent yn dal sylw ar yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn dyfod yn agos at y cwch: a hwy a ofnasant.

20Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.

21Yr oeddynt yn ewyllysio gan hyny gymmeryd ef i'r cwch, ac yn ebrwydd yr oedd y cwch wrth y tir yr oeddynt yn myned ymaith iddo.

Dymuniadau cnawdol a gwaith ysprydol.

22Tranoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll yr ochr arall i'r môr nad oedd cwch bychan arall yno ond un, ac nad aethai yr Iesu gyd â'i Ddysgyblion i'r cwch, ond myned o'i Ddysgyblion ymaith eu hunain:

23(er hyny daeth cychod bychain o Tiberias, yn agos i'r fan lle y bwytasant y bara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:)

24pan welodd y dyrfa gan hyny nad yw yr Iesu yno, na'i Ddysgyblion, hwy eu hunain a aethant i gychod bychain, ac a ddaethant i Capernaum, gan geisio yr Iesu.

25Ac wedi iddynt ei gael ef yr ochr arall i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma?

26Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid oblegyd i chwi weled arwyddion, eithr oblegyd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni.

27Ymegniwch, nid am y bwyd sydd yn darfod, ond am y bwyd sydd yn parhâu i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y Dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tâd, sef Duw.

28Dywedasant gan hyny wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?

29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, fel y credoch yn yr hwn a anfonodd efe.

30Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti gan hyny yn ei wneuthur, fel y gwelom ac y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?

31Ein Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig,

Bara allan o'r Nefoedd a roddodd efe iddynt i fwyta.

32Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi y Bara allan o'r Nef, ond fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y Bara allan o'r Nef, y Gwir Fara.

33Canys bara Duw yw yr hwn sydd yn dyfod i waered o'r Nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.

Y Gwir Fara a bywyd tragywyddol.

34Am hyny hwy a ddywedasant wrtho, Syr, Dyro i ni yn wastadol y Bara hwn.

35Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw Bara Bywyd: Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna ddim; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda ddim un amser.

36Eithr dywedais wrthych, eich bod yn wir wedi fy ngweled i, ac ni chredwch.

37Yr hyn oll y mae y Tâd yn ei roddi i mi, a gyrhaedda ataf fi; a'r hwn sydd yn dyfod ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim.

38Canys yr ydwyf wedi dyfod i waered o'r Nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.

39A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i: Fod yr oll y mae efe wedi ei roddi i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi y Dydd Diweddaf.

40Canys hyn yw ewyllys fy Nhâd: cael i bob un sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo, fywyd tragywyddol: a bod i mi ei adgyfodi ef y Dydd Diweddaf.

41Yr oedd yr Iuddewon gan hyny yn grwgnach am dano ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y Bara yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef,

42ac a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? Pa fodd yr awrhon y mae efe yn dywedyd, Yr wyf fi wedi dyfod i waered o'r Nef?

43Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na rwgnachwch wrth eich gilydd.

44Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei at‐dynu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.

45Y mae yn ysgrifenedig yn y Proffwydi

A phawb a fyddant ysgolheigion Duw.

Pob un a glywodd oddi wrth y Tâd, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi.

46Nid am fod neb wedi gweled y Tâd, oddi eithr yr hwn sydd oddi wrth Dduw, hwnw sydd wedi gweled y Tâd.

47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu, y mae ganddo fywyd tragywyddol.

48Myfi yw Bara y Bywyd.

49Eich Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, ac fuont feirw: hwn yw y Bara sydd yn dyfod i waered o'r Nef,

50fel y bwytâo unrhyw un o hono, ac na byddo marw.

51Myfi yw y Bara Bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef: os bwyty neb o'r Bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r Bara a roddaf fi, fy nghnawd i ydyw, dros fywyd y byd.

Gwaith iawnol Crist.

52Yr Iuddewon gan hyny a ymrysonasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta?

53Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytêwch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch eich hunain.

54Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf.

55Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a'm gwaed i sydd wir ddiod.

56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau.

57Fel yr anfonodd y Tâd Bywiol fi, ac yr ydwyf fi yn byw o herwydd y Tâd; felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw o'm herwydd i.

58Hwn yw y Bara a ddaeth i waered o'r Nef. Nid megys y bwytâodd y Tadau, ac y buont feirw: yr hwn sydd yn bwyta y Bara hwn a fydd byw yn dragywydd.

59Y pethau hyn a ddywedodd efe mewn Synagog, wrth ddysgu yn Capernaum.

Anghrediniaeth Dysgyblion.

60Llawer o'i Ddysgyblion gan hyny, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw yr ymadrodd hwn: pwy a ddichon wrando arno?

61A'r Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod ei Ddysgyblion yn grwgnach yn nghylch hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn peri i chwi dramgwydd?

62Beth gan hyny os gwelwch Fab y Dyn yn esgyn lle yr oedd efe o'r blaen?

63Yr Yspryd yw yr hwn sydd yn bywhâu: y cnawd nid yw yn lleshâu dim: yr ymadroddion yr wyf fi wedi eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt.

64Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o'r dechreuad pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ai traddodai ef i fyny.

65Ac efe a ddywedodd, O herwydd hyn yr wyf wedi dywedyd wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr ei fod wedi ei roddi iddo oddi wrth y Tâd.

Cyffes Petr a chymeriad Judas.

66Ar hyn, llawer yn mhlith ei Ddysgyblion ef a aethant ymaith at y pethau ar ol; ac nid oeddynt yn rhodio mwyach gyd âg ef.

67Am hyny yr Iesu a ddywedodd wrth y Deuddeg, A ewyllysiwch chwithau hefyd fyned ymaith?

68Simon Petr a atebodd iddo, Arglwydd, at bwy yr awn ni ymaith? Genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol:

69ac yr ydym ni wedi credu, ac wedi dyfod i wybod mai Tydi yw Sanct.

71Ac efe a ddywedasai am Judas, mab Simon Iscariot; canys hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, ac yntau yn un o'r Deuddeg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help