1A'r Iesu a atebodd ac a lefarodd drachefn mewn dammegion wrthynt,
2gan ddywedyd, Cyffelybir Teyrnas Nefoedd i frenin, yr hwn a wnaeth briodaswledd i'w fab,
3ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodaswledd; ac ni fynent hwy ddyfod.
4Trachefn efe a anfonodd weision ereill, gan ddywedyd, Dywedwch i'r gwahoddedigion, Wele, yr wyf wedi parotoi fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion ydynt wedi eu lladd, ac y mae pob peth yn barod: deuwch i'r briodaswledd.
5A hwy yn esgeulus a aethant ymaith, un i'w faes ei hun, ac arall at ei fasnach.
6A'r gweddill a ddaliasant ei weision ef, ac a ymddygasant yn warthus tuag atynt, ac a'u lladdasant.
7Eithr y brenin oedd yn llidiog, ac a ddanfonodd ei fyddinoedd, ac a ddyfethodd y llofruddion hyny, ac a losgodd eu dinas hwynt.
8Yna efe a ddywed wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddynt deilwng.
9Ewch, gan hyny, i gydgyfarfyddiadau y prif‐ffyrdd, a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i'r briodaswledd.
10A'r gweision hyny a aethant allan i'r prif‐ffyrdd, ac a gasglasant yn nghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd yr ystafell briodas o wahoddedigion.
11A phan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwahoddedigion, efe a welodd yno ddyn nad oedd wedi gwisgo gwisg priodas.
12Ac efe a ddywed wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost i fewn yma heb fod genyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.
13Yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision, Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw, a bwriwch ef allan i'r tywyllwch eithaf. Yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
14Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.
Teyrnged Cesar ac iawnderau Duw.[Marc 12:13–17; Luc 20:20–26]15Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymmerasant gynghor fel y rhwydent ef yn ei ymadrodd.
16Ac y maent yn danfon ato eu Dysgyblion yn nghyd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, a'th fod yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad ydwyt yn prisio am neb, oblegyd nid ydwyt yn edrych ar wyneb dynion.
17Dywed i ni, gan hyny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
18Ond yr Iesu yn gwybod eu drygioni hwy, a ddywed, Paham yr ydych yn fy nhemtio I, O ragrithwyr?
19Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant iddo ddenarion.
20Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraff?
21Hwy a ddywedant wrtho, Eiddo Cesar. Yna efe a ddywed wrthynt, Rhoddwch yn ol, gan hyny, eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw.
22A phan glywsant, hwy a ryfeddasant, a chan ei adael, hwy a aethant ymaith.
Plant yr Adgyfodiad[Marc 12:18–27; Luc 20:27–38]23Y dydd hwnw y daeth ato Saduceaid, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad, ac a ofynasant iddo,
24gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses,
Os bydd marw neb heb iddo blant, ei frawd a brioda ei wraig ef, ac a gyfoda hâd i'w frawd
25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth, a adawodd ei wraig i'w frawd.
26Felly hefyd yr ail a'r trydydd, hyd y seithfed.
27Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd.
28Yn yr Adgyfodiad, gan hyny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys yr oll a'i cawsant hi.
29A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr Ysgrythyrau, na gallu Duw.
30Canys yn yr Adgyfodiad nid ydynt yn priodi nac yn cael eu rhoi mewn priodas; eithr y maent fel angylion yn y Nef.
31Ac am Adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,
32Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw efe Dduw rhai meirw ond rhai byw.
33A phan glybu y torfeydd, hwy a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef.
Y gorchymyn mawr[Marc 12:28–34]34Ac wedi clywed o'r Phariseaid iddo roddi taw ar y Saduceaid, hwy a ymgynnullasant yn nghyd i'r un lle.
35Ac un o honynt, cyfreithiwr, a'i holodd ef, gan ei brofi,
36Athraw orchymyn sydd fawr yn y Gyfraith?
37Ac Efe a ddywedodd wrtho,
Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl.
38Hwn yw y gorchymyn mawr a'r cyntaf.
39Ac y mae ail yn gyffelyb iddo:
Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.
40Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl Gyfraith yn crogi a'r Proffwydi.
Mab Dafydd.[Marc 12:34–37; Luc 20:40–44]41Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid yn nghyd, yr Iesu a'u holodd hwynt,
42gan ddywedyd, Beth dybygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw? Dywedant wrtho, Mab Dafydd.
43Yntau a ddywed wrthynt, Pa fodd gan hyny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheulaw,
Hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed.
45Os yw Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?
46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnw allan ei holi ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.