Marc 12 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Dammeg y llafurwyr drwg[Mat 21:33–46; Luc 20:9–19]

1Ac efe a ddechreuodd lefaru wrthynt mewn dammegion: Gwr a blanodd winllan, ac a ddododd gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd win‐gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

2Ac efe a anfonodd at y llafurwyr, yn y tymhor, ei was, fel y derbyniai oddiwrth y llafurwyr o ffrwythau y winllan.

3A hwy a'i daliasant, ac a'i curasant, ac a'i danfonasant ymaith yn wag.

4A thrachefn yr anfonodd efe atynt was arall, a hwy a archollasant ei ben, ac a'i anmharchasant.

5Ac efe a anfonodd un arall; a hwnw hwy a laddasant: a llawer eraill; gan guro rhai, a lladd y lleill.

6Yr oedd ganddo eto un mab, ei anwylyd: efe a'i danfonodd ef atynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

7Ond y llafurwyr hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a'n heiddo ni fydd yr etifeddiaeth.

8A hwy a'i daliasant, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r winllan.

9Beth gan hyny a wna Arglwydd y winllan? Efe a ddaw, ac a ddyfetha y llafurwyr, ac a rydd y winllan i eraill.

10Ai ni ddarllenasoch yr Ysgrythyr hon, —

Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, —

Hwn a wnaed yn ben congl:

11O'r Arglwydd y bu hyn,

A rhyfedd yw yn ein golwg ni?.

12Ac yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; ac a ofnasant y dyrfa; canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y llefarodd efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.

Eiddo Cesar ac eiddo Duw[Mat 22:15–22; Luc 20:20–26]

13Ac y maent yn danfon ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid, fel y rhwydent ef drwy ei ymadrodd.

14Ac wedi eu dyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn ddidwyll, ac nad wyt yn gofalu rhag neb; canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion; ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?

15A roddwn ni, ai ni roddwn? Ond efe yn gwybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? Dygwch i mi ddenarion, fel ei gwelwyf.

16A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywed wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r darlleniad? A hwy a ddywedasant wrtho, Eiddo Cesar.

17A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Talwch eiddo Cesar i Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu yn ddirfawr a wnaethant.

Y Saduceaid a'r Adgyfodiad[Mat 22:23–33; Luc 20:27–38]

18Ac y mae Saduceaid yn dyfod ato, y rhai a ddywedant nad oes Adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,

19Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni,

O fydd marw brawd neb, a gadael gwraig ar ei ol, ac heb adael plant, bydded i'w frawd gymmeryd ei wraig, a chodi hâd i'w frawd.

20Yr oedd saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig; a phan fu farw, ni adawodd hâd.

21A'r ail a'i cymmerodd hi, ac a fu farw heb adael hâd ar ei ol; a'r trydydd yr un modd.

22A'r saith ni adawsant hâd. Yn ddiweddaf o'r oll bu farw y wraig hefyd.

23Yn yr Adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.

24A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ai nid o herwydd hyn yr ydych yn cyfeiliorni, sef, na wyddoch yr Ysgrythyrau, na gallu Duw?

25Canys pan adgyfodant o feirw, nid ydynt yn priodi, nac yn cael eu rhoddi mewn priodas, ond y maent fel Angelion yn y Nefoedd.

26Ond ynghylch y meirw, eu bod yn cael eu cyfodi, oni ddarllenasoch yn Llyfr Moses, yn yr adran am y Berth, y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd,

Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.

27Nid yw efe Dduw rhai meirw, ond rhai byw. Yr ydych yn cyfeiliorni yn fawr.

Y Gorchymyn penaf[Mat 22:34–40; Luc 20:39–40]

28Ac un o'r Ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn cyd‐ymholi, a gweled iddo eu hateb yn dda, ac a ofynodd iddo, O ba natur yw y Gorchymyn Cyntaf o'r oll?

29A'r Iesu a atebodd iddo, y cyntaf yw,

Clyw Israel!

Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:

30A thi a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth.

31Yr ail yw hwn

Ti a geri dy gymydog fel ti dy hun.

Mwy na'r rhai hyn nid oes orchymyn arall.

32A'r Ysgrifenydd a ddywedodd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai Un yw efe

, ac nad oes arall heblaw efe;

33a'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu y cymydog fel efe ei hun, sydd lawer amgenach na'r holl boeth‐offrymau cyfain ac aberthau.

34A'r Iesu, pan welodd iddo ateb yn synwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddiwrth Deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb o hyn allan osod gofyniadau iddo.

Mab ac Arglwydd Dafydd[Mat 22:41–46; Luc 20:41–44]

35A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, pan yn dysgu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd?

36Dafydd ei hun a ddywedodd yn yr Yspryd Glân:—

Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd,

Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion

Yn droedfainc i'th draed.

37Y mae Dafydd ei hun yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A'r dyrfa fawr a'i gwrandawent ef gydâ blas.

Rhybudd yn erbyn balchder a ffug‐weddiau[Mat 23:1–7; Luc 20:45–47]

38Ac yn ei ddysgeidiaeth efe a ddywedodd, Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn llaes‐wisgoedd, a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd

39a'r prif‐gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y swperau.

40Y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio, — y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach.

Y weddw dlawd haelfrydig[Luc 21:1–4]

41Ac efe a eisteddodd gyferbyn a'r Drysorfa, ac a ddaliodd sylw pa fodd yr oedd y dorf yn bwrw arian i'r Drysorfa; a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.

42Ac un wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.

43A'r Iesu a alwodd ei Ddysgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriant i'r Drysorfa.

44Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant i mewn o'u gor‐lawnder sydd ganddynt; ond hon o'i hangen a fwriodd i mewn yr oll, pa beth bynag a feddai, ei holl gynaliaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help