Marc 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist o flaen Pilat: ei gyffes[Mat 27:1, 2, 11–14; Luc 23:1–3; Ioan 18:28–38]

1Ac yn ebrwydd yn y boreu, yr Arch‐offeiriaid gyd â'r Henuriaid a'r Ysgrifenyddion, ie, yr holl Uchel‐Gynghor, a gydymgynghorasant, ac wedi rhwymo yr Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant i Pilat.

2A gofynodd Pilat iddo, Ai tydi yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe, gan ateb, a ddywed wrtho, Tydi ydwyt yn dywedyd.

Ei ddystawrwydd[Mat 27:12–14; Luc 23:4–7]

3A'r Arch‐offeiriaid oeddynt yn ei gyhuddo ef o lawer o bethau.

4A Philat drachefn a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? Wele o gymaint o bethau y maent yn dy gyhuddo.

5Ond yr Iesu mwyach nid atebodd ddim, yn gymaint ag i Pilat ryfeddu.

Ei Gondemniad[Mat 27:15–21; Luc 23:13–19; Ioan 18:38–40]

6Ac ar bob gwyl yr arferai efe ollwng yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ddeisyfent arno.

7Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd wedi ei garcharu gyd â'r rhai oeddynt wrthryfelwyr, y cyfryw oeddynt wedi gwneyd llofruddiaeth yn y gwrthryfel.

8A'r dyrfa a aeth i fyny, ac a ddechreuodd geisio ganddo wneuthur, fel yn wastad yr arferai wneuthur iddynt.

9A Philat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynwch chwi i mi i ryddhau i chwi Frenin yr Iuddewon?

10Canys yr oedd wedi dyfod i wybod, mai o herwydd cenfigen yr oedd yr Arch‐offeiriaid wedi ei draddodi ef.

11Yr Arch‐offeiriaid a gynhyrfasant y dyrfa, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12A Philat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth, gan hyny, a fynwch i mi wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iuddewon?

13A hwy a lefasant drachefn, Croeshoelier ef.

14Ond Pilat a ddywedodd wrthynt, Paham, canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ond hwy a lefasant yn daer, Croeshoelier ef.

15A Philat yn ewyllysio boddloni y dyrfa, a ryddhaodd Barabbas iddynt, ac a draddododd i fyny yr Iesu, wedi ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Ei watwar[Mat 27:27–30; Ioan 19:1–3]

16A'r milwyr a'i harweiniasant ef i tu fewn y Llŷs, yr hwn yw y Pretorium, ac y maent yn galw ynghyd yr holl gatrawd,

17ac yn ei wisgo ef a phorphor; ac wedi plethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant arno;

18ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iuddewon!

19A churasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan fyned ar eu gliniau, hwy a'i haddolasant ef.

20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i harweiniasant allan i'w groeshoelio.

Y Croeshoeliad[Mat 27:31–38; Luc 23:26–34; Ioan 19:16–24]

21Ac y maent yn dir‐gymhell i wasanaeth, yr hyn yw, wedi ei ddeongli, Lle Penglog:

23ac a fynent roddi iddo win wedi ei gymysgu a myr: ond efe nis cymmerodd.

24Ac y maent yn ei groeshoelio ef, ac yn rhanu yn eu plith ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, pa beth a gawsai pob un.

25A'r drydedd awr ydoedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.

26Ac yr oedd arysgrifen ei drosedd ef wedi ei hysgrifenu uwchlaw,

Brenin yr Iuddewon.

27A chyd âg ef y maent yn croeshoelio dau yspeiliwr: un ar y ddeheu, a'r llall ar ei law aswy.

28Ei waradwyddo[Luc 23:35–43]

29A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu penau, a dywedyd, Ha! Tydi, yr hwn wyt yn tynu i lawr y Cysegr, ac yn ei adeiladu mewn tridiau,

30gwared dy hun, gan ddisgyn oddiar y groes.

31Yr un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd yn gwatwar yn eu plith eu hunain, gyd â'r Ysgrifenyddion, a ddywedasant, Eraill a waredodd efe, ei hun nid yw yn gallu ei wared.

32Disgyned y Crist, Brenin Israel, yn wr oddiar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai oedd wedi eu croeshoelio gyd âg ef a'i difenwasant ef.

Pethau cydfynedol â'r Croeshoeliad[Mat 27:45–56; Luc 23:44–49; Ioan 19:28–30]

33A phan ddaeth y chweched awr, daeth tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed.

34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel,

Eloi, Eloi, lama sabachthani:

Yr hyn ydyw, wedi ei ddeongli,

Fy Nuw, Fy Nuw, Paham yr wyt wedi fy ngadael!

35A rhai o'r rhai oedd wedi sefyll gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, Y mae efe yn galw Elias.

36A rhyw un a redodd, ac a lanwodd yspwng o finegr, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Gadêwch: gwelwn os ydyw Elias yn dyfod i'w dynu ef i lawr.

37A'r Iesu a lefodd a llef uchel, ac efe a anadlodd allan ei fywyd.

38A Llen y Cysegr a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.

39A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, iddo felly anadlu allan ei fywyd, efe a ddywedodd, Y dyn hwn oedd Fab Duw.

40Ac yr oedd yno wragedd hefyd, yn syllu o hirbell: yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome:

41y rhai, pan yr oedd efe yn Galilea, a'i canlynasent ef, ac a weiniasent iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a aethent i fyny gyd âg ef i Jerusalem.

Ei gladdedigaeth[Mat 27:57–61; Luc 23:50–56; Ioan 19:38–42]

42A phan oedd hi weithian yn hwyr, am ei bod y Parotoad, yr hwn yw y dydd cyn y Sabbath,

43daeth Joseph o Arimathea, Cynghorwr o sefyllfa anrhydeddus, yr hwn hefyd ei hun oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw, ac a aeth yn hyf i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.

44A Philat a ryfeddodd ei fod wedi marw eisioes; ac efe a alwodd ato y Canwriad, ac a ofynodd iddo os oedd efe wedi marw yn barod.

45A phan wybu efe oddiwrth y Canwriad, efe a roddodd y corff yn ewyllysgar i Joseph.

46Ac efe a brynodd lian costfawr, a chan ei dynu ef i lawr, efe a'i hamdôdd ef yn y llian, ac a'i gosododd ef mewn bedd a naddesid allan o'r graig; ac a dreiglodd gareg ar ddrws y bedd.

47A Mair Magdalen a Mair mam Joses a ddaliasant sylw pa le y dodid ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help