1Wedi y pethau hyn, penododd yr Arglwydd Ddeg‐a‐Thri‐ugain eraill, ac a'u danfonodd hwy bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob Dinas a man, lle yr oedd efe ei hun ar fedr dyfod.
2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfwch, gan hyny, ar Arglwydd y Cynhauaf i yru allan weithwyr i'w Gynhauaf.
3Ewch: wele yr wyf yn eich danfon chwi fel wyn yn nghanol bleiddiaid.
4Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, na sandalau, ac na chyferchwch neb ar hyd y ffordd.
5Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn gyntaf, dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.
6Ac os bydd mab tangnefedd yno, eich tangnefedd a orphwys arno, ond os nad ydyw, efe a ddychwel arnoch chwi.
7Ac yn y tŷ hwn aroswch, gan fwyta ac yfed y pethau a roddir ganddynt chwi.
10Eithr i ba Ddinas bynag yr eloch, ac nis derbyniant chwi, ewch allan i'w phrif heolydd, a dywedwch,
11Hyd y nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym ar ein traed o'ch Dinas chwi, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich herbyn chwi: er hyny, gwybyddwch hyn: Y mae Teyrnas Dduw wedi agoshâu.
12Yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd yn fwy goddefadwy i Sodom yn y dydd hwnw, nag i'r Ddinas hono.
13Gwae i ti, Chorazin; gwae i ti, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sach‐lian a lludw.
14Bellach, bydd yn fwy goddefadwy i Tyrus a Sidon yn y Farn, nag i chwi.
15A thithau Capernäum, a ddyrchefir di hyd y Nef? Ti a ddisgyni hyd Hades allan o'r Nef.
19Wele yr ydwyf wedi rhoddi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau; a thros holl allu y Gelyn; ac ni wna dim niwed o gwbl i chwi.
20Er hyny, yn hyn na lawenhêwch am fod yr ysprydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenhêwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y Nefoedd.
Y Tâd yn dadguddio i'r plant, ac yn ymddiried i'r Mab[Mat 11:25–27]21Yn yr awr hono, efe a ymorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, ac a ddywedodd, Yr wyf yn cydnabod yn ddiolchgar i ti, O Dâd, Arglwydd y Nef a'r ddaear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, a'u dadguddio i fabanod: ie, O Dâd, canys gwneuthur felly oedd dy ewyllys da.
22Pob peth a roddwyd i fyny i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tâd; a phwy yw y Tâd, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo.
Gwynfydedigrwydd gwybodaeth o Grist[Mat 13:16–17]23Ac efe a drôdd at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Llawer o Broffwydi a Breninoedd a chwenychasant weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
Dysgawdwr y Gyfraith yn ei brofi: y Gwir Gymydog.25Ac wele, rhyw Ddysgawdwr y Gyfraith a gododd i fyny gan ei brofi holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymydog fel ti dy hun.
28Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn gywir: gwna hyn a byw fyddi.
29Ond efe yn benderfynol i gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?
30Ac efe gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai a'i diosgasant ef, ac a'i curasant.
31Ac ar gyd‐ddygwyddiad, rhyw Offeiriad oedd yn myned i waered y ffordd hono; a phan y gwelodd ef, efe a aeth heibio o'r tu arall.
32Ac yn gyffelyb Lefiad hefyd, wedi dyfod i waered i'r lle, a gweled, a aeth heibio o'r tu arall.
33Ond rhyw Samariad, yn ymdeithio, a ddaeth i waered ato ef; a phan y gwelodd, efe a dosturiodd,
34ac a ddaeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan barhâu i dywallt arnynt olew a gwin, ac a gymmerodd ofal am dano.
35A thua thranoeth, efe a dynodd allan ddwy ddenarion, Gofala am dano, a pha beth bynag a dreuli yn ychwaneg, myfi, pan ddychwelwyf, a dalaf yn ol i ti.
36Pwy o'r tri hyn, a ymddengys i ti sydd wedi bod yn gymydog i'r hwn a syrthiodd i blith ysbeilwyr?
37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
Y Rhan dda — y peth angenrheidiol.38Pan yr oeddynt hwy yn ymdeithio, efe a ddaeth i mewn i ryw bentref; a rhyw wraig o'r enw Martha a'i croesawodd ef i'w thŷ.
39Ac i hon yr oedd chwaer a'i henw Mair, yr hon hefyd a eisteddodd yn ymyl wrth draed yr Arglwydd, ac a wrandawodd ei air ef.
40A Martha a drallodwyd ynghylch gweini llawer arno: a hi gan sefyll i fyny a ddywedodd, Arglwydd, Ai nid wyt ti yn gofalu fod fy chwaer wedi fy ngadael i yn hollol wrthyf fy hun i wasanaethu? Gan hyny, dywed wrthi, am gymmeryd ei rhan gyd â mi.
41A'r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, yr wyt ti yn bryderus a chythryblus ynghylch llawer o bethau:
42ond am un y mae angen: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.