1 Corinthiaid 9 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Dadganiad o'i hawliau fel Apostol.

1Onid wyf fi yn rhydd? onid wyf yn Apostol? onid wyf wedi gweled Iesu Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2Os i eraill nid wyf Apostol, etto yn ddios i chwi yr wyf: canys sêl fy apostoliaeth ydych chwi yn yr Arglwydd.

3Fy amddiffyniad i i'r rhai sydd yn fy arholi i yw hyn:

4Onid oes gennym awdurdod i fwytta ac i yfed?

5Onid oes gennym awdurdod i arwain o amgylch chwaer fel gwraig, yr un modd a'r Apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas?

6Neu ai myfi yn unig a Barnabas sydd heb gennym awdurdod i fod heb weithio?

7Pwy sydd yn milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta ei ffrwyth hi? Pwy sydd yn bugeilio praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd?

8Ai yn ol dyn yr wyf yn llefaru y pethau hyn? neu onid yw y Gyfraith hefyd yn dywedyd hyn?

9Canys yng Nghyfraith Moses y mae yn ysgrifenedig, Ni rwymi safn ych yn dyrnu. Ai am yr ychain y mae Duw yn gofalu,

10neu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, gan mai mewn gobaith y dylai yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith o gyfrannogi.

11Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

12Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon

arnoch, onid ydym nyni yn hytrach? Etto ni ddefnyddiasom ni yr awdurdod hon, eithr ni a oddefwn bob peth, fel na roddom unrhyw rwystr i efengyl Crist.

13Oni wyddoch fod y rhai sydd yn ymwneyd â'r pethau cyssegredig yn bwytta o bethau y Deml? y rhai sydd yn gweini ar yr allor, a gydgyfrannogant â'r allor?

14Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth yr efengyl.

Hunan‐ymwadiad yr Apostol mewn perthynas a'i hawliau.

15Eithr nid wyf fi wedi arfer un o'r pethau hyn; ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid yn y modd hyn i mi; canys da i mi farw yn hytrach na'u harfer — ni wna neb fy ymffrost yn ofer.

16Canys os efengylaf, nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf; canys gwae sydd i mi, os nad efengylaf.

17Canys os wyf yn gwneuthur hyn o'm hewyllys fy hun, y mae i mi dâl; ond os nid o'm hewyllys, y mae i mi oruchwyliaeth wedi ei hymddiried.

18Pa beth gan hynny yw fy nhâl? fel gan efengylu y gwnaf yr efengyl yn ddidraul: fel na ddefnyddiwyf i'r eithaf fy awdurdod yn yr efengyl.

19Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, mi a wnaethum fy hun yn gaethwas i bawb, fel yr ennillwn y rhan fwyaf.

20Ac i'r Iuddewon mi a fum megys Iuddew, fel yr ennillwn Iuddewon; i'r rhai sydd dan y ddeddf, megys dan ddeddf, a mi fy hun heb fod dan ddeddf, fel yr ennillwn y rhai sydd dan ddeddf;

21I'r rhai sydd ddiddeddf, megys diddeddf, heb fy mod yn ddiddeddf i Dduw, eithr o fewn cylch deddf Crist, fel yr ennillwn y rhai diddeddf.

22I'r gweiniaid mi a fum yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. I bawb yr wyf wedi bod yn bob peth, fel ym mhob modd yr achubwn rai.

23Ac yr wyf yn gwneuthur pob peth er mwyn yr efengyl, fel y byddwyf yn gyd‐gyfrannog o honi.

Cymhellion i ymgadwad.

24Oni wyddoch am y rhai sydd yn rhedeg yn y rhedeg‐le, eu bod oll yn rhedeg, ond un sydd yn derbyn y wobr? Rhedwch yn y fath fodd, fel y cymmerwch afael ynddi.

25A phob un sydd yn ymdrechu am dani, ym mhob peth y mae yn ymarfer hunan‐reolaeth: hwynthwy yn wir fel y derbyniont goron lygradwy; eithr nyni, un anllygradwy.

26Myfi, mewn canlyniad, wyf felly yn rhedeg, nid fel yn ansicr; felly yr wyf yn ymbaffio fel nid yn curo'r awyr.

27Eithr yr wyf yn cleisio fy nghorph ac yn ei ddwyn i gaethiwed, rhag mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn annghymmeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help