1Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i feirniadaeth o'i dybiadau.
2Un, yn wir, sydd ganddo ffydd i fwytta pob peth, ond yr hwn sydd yn wan, llysiau y mae yn fwytta.
3Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta; a'r hwn nid yw yn bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a'i derbyniodd ef atto.
4Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? i'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; ac efe a wneir i sefyll, canys fe a all Duw wneyd iddo sefyll.
5Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ond arall a farn bob diwrnod yr un fath: bydded pob un yn hollol argyhoeddedig yn ei feddwl ei hun.
6Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried,, a'r hwn sydd yn bwytta, i'r Arglwydd y mae yn bwytta, canys y mae yn diolch i Dduw; a'r hwn nad yw yn bwytta, i'r Arglwydd nid yw yn bwytta, ac y mae yn diolch i Dduw.
7Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, ac nid oes neb yn marw iddo ei hun.
8Ac os byw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn marw; gan hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.
9I hyn y bu Crist farw a byw, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw.
Gofal ystyrbwyll am, a chariad hunan‐aberthol at ein gilydd.10Eithr tydi, paham y berni dy frawd? neu etto tydi, paham y dirmygi dy frawd? Canys gosodir ni oll gerbron brawdle Duw, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd, oblegyd i mi y plyga pob glin, a phob tafod a gyffesa i Dduw.
12Felly, gan hynny, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw.
13Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach, eithr bernwch hyn yn hytrach, na byddo i neb osod maen‐tramgwydd ar ffordd ei frawd, neu fagl.
14Mi a wn, ac yr wyf wedi fy mherswadio yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i'r hwn sydd yn cyfrif peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15Canys os o achos bwyd y tristhêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
16Na chabler, gan hynny, eich daioni chwi;
17canys nid bwytta ac yfed yw Teyrnas Dduw, eithr cyfiawnder a thangnefedd, a llawenydd yn yr Yspryd Glân.
18Canys y neb sydd yn gwasanaethu Crist yn y peth hwn sydd yn rhyngu bodd i Dduw ac yn gymmeradwy gan ddynion.
19Felly gan hynny yr ydym ni yn dylyn pethau tangnefedd a phethau adeiladaeth ein gilydd.
20O achos bwyd na ddinystria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân, eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwytta trwy dramgwydd.
21Da yw peidio â bwytta cig nac yfed gwin, na gwneuthur dim yn yr hwn y mae tramgwydd i'th frawd.
22Y ffydd yr hon sydd gennyt, ceidw i ti dy hun gerbron Duw. Dedwydd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei gymmeradwyo;
23eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwytty, sydd wedi ei gondemnio, am nad o ffydd y gweithreda: a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.