Galatiaid 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarchiad.

1Paul, Apostol — nid oddiwrth ddynion, na chwaith trwy ddyn, ond trwy Iesu Grist a Duw Dâd, yr Hwn a'i cyfododd Ef o feirw—

2a'r holl frodyr sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:

3Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dâd a'n Harglwydd Iesu Grist,

4yr Hwn a roddes ei Hun am ein pechodau, fel y'n gwaredai ni allan o'r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a'n Tâd,

5i'r Hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Paul yn amddiffyn ei Apostolaeth.

6Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd yng ngras Crist i efengyl wahanol,

7yr hon nid yw arall: ond fod rhai yn eich cythryblu chwi, ac yn chwennych dattroi efengyl Crist.

8Eithr pe bai hyd y nod i nyni neu angel o'r nef efengylu i chwi amgen na'r hyn a efengylasom i chwi, bydded felldigedig.

9Megys y dywedasom o'r blaen, yr wyf hefyd yn awr drachefn yn dywedyd, Os oes neb yn efengylu i chwi amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig.

10Canys yn awr ai am ennill ffafr dynion yr wyf, neu ynte Duw? A ydwyf yn ceisio boddloni dynion? Os hyd yn hyn y byddwn yn boddloni dynion, ni fyddwn was i Grist.

11Canys yr wyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd gennyf fi, nad ydyw yn ol dyn.

12Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd, ond trwy ddadguddiad Iesu Grist.

13Canys chwi a glywsoch am fy ymarweddiad gynt mewn Iuddewaeth, i mi tros fesur erlid eglwys Dduw a'i hanrheithio hi;

14a myned rhagof mewn Iuddewaeth tuhwnt i lawer o'm cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod o'r dechreu yn fwy gorselog tros draddodiadau fy nhadau.

15Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm neillduodd o'm genedigaeth, ac a'm galwodd trwy ei ras,

16i ddadguddio ei Fab ynof fi, fel y pregethwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed;

17ac nid aethum ymaith i fyny i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr aethum ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Damascus.

Ei ymweliad a Jerusalem, Syria, a Cilicia.

18Yna ar ol tair blynedd aethum i fyny i Jerusalem i ymweled a Cephas, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod;

19eithr neb arall o'r apostolion nis gwelais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd.

20A'r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd.

21Wedi hynny daethum i ororau Syria a Cilicia;

22ac yr oeddwn yn anadnabyddus yn bersonnol i eglwysi Judea, y rhai oeddynt yng Nghrist;

23ond yn unig yr oeddynt yn clywed: Yr hwn oedd gynt, yn ein herlid, sydd yn awr yn pregethu y Ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;

24a hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help