Luc 16 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfrwysder bydol a doethineb ysprydol: y goruchwyliwr anonest.

1Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y Dysgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr: a hwn a gyhuddwyd wrtho fel yn gwastraffu ei feddianau ef.

2Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? Dyro yn ol y cyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn swydd goruchwyliwr.

3A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi wrthyf? Nid oes genyf nerth i gloddio; ac y mae arnaf gywilydd i gardota.

4Mi a wn beth a wnaf, fel pan y'm symuder o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai eu hunain.

5Ac efe a alwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd ei hun, ac a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm harglwydd?

6Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.

7Yna y dywedodd wrth arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can côr o wenith. Dywed wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac ysgrifena bedwar ugain.

8A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn: canys y mae Meibion y byd hwn yn gallach tu ag at eu cenedlaeth eu hun na Meibion y goleuni.

9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion allan o'r Mamon Anghyfiawn, fel pan y pallo, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll.

10Yr hwn sydd ffyddlawn mewn ychydig sydd hefyd ffyddlawn mewn llawer: a'r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.

11Os gan hyny ni fuoch ffyddlawn yn y Mamon Anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi yr hyn sydd wirioneddol?

12Ac os ni fuoch ffyddlawn yn yr hyn sydd eiddo arall, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hun?

13Ni ddichon un gwas teulu wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gashâ y naill, ac a gâr y llall: neu efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.

Arian‐garwch: godineb: Cyfraith Duw.

14A'r Phariseaid, y rhai oeddynt ariangar, a glywsant yr holl bethau hyn, ac a'i gwawdiasant ef.

15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn cyfiawnhâu eich hunain gerbron dynion: ond y mae Duw yn gwybod eich calonau chwi: canys y peth sydd uchel yn mhlith dynion sydd ffieidd‐dra, ac y mae pob un yn ymwthio â'i holl nerth iddi.

17Ond hawddach yw i Nef a daear fyned heibio nag i un tipyn o'r Gyfraith syrthio i'r llawr.

18Pob un o ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu: a'r hwn a briodo yr hon sydd wedi ei gollwng ymaith oddi wrth wr, y mae efe yn godinebu.

Y Gwr goludog a'r Cardotyn.

19Ac yr oedd rhyw wr goludog; ac yr oedd yn arfer cael ei wisgo mewn porphor a llian teg gwerthfawr, gan fwynhâu ei hun bob dydd yn ysblenydd.

20A rhyw ddyn tlawd, o'r enw Lazarus, a fwriwyd wrth ei borth ef yn gornwydlyd a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22A bu i'r dyn tlawd farw, a'i ddwyn ymaith gan yr Angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd:

23ac yn Hades efe a gododd ei olwg, ac efe mewn dirboenau, ac y mae yn gweled Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.

24Ac efe ei hun a lefodd, ac a ddywedodd, Dâd Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, fel y trocho ben ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod, canys yr wyf fi mewn trallod dy bethau da yn dy fywyd, a Lazarus yr un modd y pethau drwg: ond yn awr y mae efe yma yn cael ei ddyddanu, ond tithau dy drallodi.

26Ac heblaw y pethau hyn oll, rhyngom ni a chwithau y mae gagendor mawr wedi ei sicrhâu, fel na allo y rhai a ewyllysient fyned drosodd oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna groesi drosodd atom ni.

27Ond efe a ddywedodd, Yr wyf yn gofyn i ti, gan hyny, O dâd, ei anfon ef i dŷ fy nhâd;

28canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho yn ddifrifol iddynt hwy, fel na ddelont hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.

29Ond Abraham a ddywed, Y mae ganddynt Moses a'r Proffwydi: bydded iddynt wrando arnynt hwy.

30Ond efe a ddywedodd, Na, Y tâd Abraham: eithr os â rhyw un oddiwrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt.

31Ond efe a ddywedodd wrtho, Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, ni ddarbwyllir hwynt ychwaith os adgyfyd un o blith y meirw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help