1Yr Henuriad yr anwylyd, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.
2Anwylyd, yr wyf yn gweddio ar dy fod ym mhob peth yn llwyddo a bod yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
3Canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i'th wirionedd di, megys ag yr wyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4Mwy llawenydd nid oes gennyf na hyn, sef clywed fod fy mhlant fy hun yn rhodio yn y gwirionedd.
5Anwylyd, yr wyt yn gwneuthur gwaith ffyddlawn ym mha beth bynnag yr wyt yn ei weithredu tuag at y brodyr, ac yn enwedig a hwy yn ddyeithriaid;
6y rhai a ddygasant dystiolaeth i'th gariad di gerbron yr eglwys: rhagorol y gwnei os hebryngi hwynt yn deilwng o Dduw;
7canys er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb gymeryd dim gan y Cenhedloedd.
8Ni a ddylem gan hynny gynnal y cyfryw rai, fel y byddom gyd‐weithwyr â'r gwirionedd.
Diotrephes.9Ysgrifennais rywbeth at yr Eglwys, eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y flaenoriaeth yn eu plith hwy ni dderbyn o honom ni.
10O herwydd hyn, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd y rhai y mae yn eu gwneuthur, gan wag‐siarad i'n herbyn âg ymadroddion drygionus: ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, ac y mae yn gwahardd y rhai sydd yn ewyllysio, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys.
11Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, nid ydyw wedi gweled Duw.
Demetrius.12I Demetrius y tystiolaethir gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; a nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a thi a wyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir.
Diweddglo.13Yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond nid wyf yn ewyllysio ysgrifennu âg ingc a phin atat ti.
14Eithr yr wyf yn gobeithio dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
15Tangnefedd i ti. Y mae y cyfeillion yn dy annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.