1A bu, a'r bobl yn gwasgu arno, ac yn gwrando Gair Duw, yr oedd efe ei hun hefyd yn sefyll wrth Lyn Gennesaret:
2ac efe a welodd ddau gwch yn sefyll wrth y Llyn: ond y pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3Ac efe a aeth i mewn i un o'r cychod, yr hwn oedd eiddo Simon, ac a ofynodd iddo i wthio ychydig oddiwrth y tir. Ac efe a eisteddodd ac a ddysgodd y torfeydd allan o'r cwch.
4A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dyfnder, a gollyngwch chwi i lawr eich rhwydau am ddalfa.
5A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, ar ol ymboeni drwy y nos i gyd, ni ddaliasom ni ddim: ond ar dy air di, mi a ollyngaf i lawr y rhwydau.
6Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwy a amgauasant luaws mawr o bysgod, ac yr oedd eu hwynt: a hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddau gwch, fel ag yr oeddynt ar soddi.
8A Simon Petr, pan welodd, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos allan ymaith oddiwrthyf fi; canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd:
9canys syndod a'i meddianodd ef a phawb oedd gyd âg ef, ar y ddalfa o bysgod a ddaliasent;
10a'r un modd hefyd Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyd‐gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan ti a fyddi yn dala dynion.
11Ac wedi iddynt ddwyn y cychod at y tir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dylynasant ef.
Iachâu y Gwahan‐glwyfus[Mat 8:2–4; Marc 1:40–45]12A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu.
13Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.
14Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb: ond, Ar ol myned ymaith, dangos dy hun i'r Offeiriad, a dwg dy offrwm am dy lanhâd, fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15Ond y gair am dano ef a aeth fwy‐fwy ar led; a thyrfaoedd lawer a ddaethant ynghyd i'w glywed ef, ac i'w hiachâu o'u gwendidau.
16Ond efe ei hun oedd yn ymneillduo i'r lleoedd anial, ac yn gweddïo.
Iachâu y Parlysig: grwgnach y Phariseaid[Mat 9:2–8; Marc 3:1–12]17A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu, yr oedd Phariseaid a Dysgawdwyr y Gyfraith hefyd yn eistedd: yr oeddynt wedi dyfod allan o bob pentref yn Galilea, a Judea, ac o Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd ganddo er iachâu.
18Ac wele wŷr yn dwyn ar wely ddyn ag oedd wedi ei daro â'r parlys, ac yr oeddynt yn ceisio ei ddwyn ef i mewn, a'i osod o'i flaen ef.
19A phan na chawsant allan pa fodd y dygent ef i mewn o achos y dyrfa, hwy a aethant i fyny ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered gyd â'i wely bychan drwy y pridd‐lechau i'r canol gerbron yr Iesu.
20A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, Y dyn, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti.
21A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn llefaru cableddau? Pwy a ddichon faddeu pechodau, ond Duw yn unig?
22A'r Iesu yn gwybod yn hollol eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu yn eich calonau?
23Pa un sydd hawddaf, ai dywedyd, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd wedi ei daro â'r parlys, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod a chymmer i fyny dy wely bychan, a dos i'th dŷ.
25Ac yn y fan efe a gyfododd i fyny yn eu gŵydd hwynt: ac a gymmerodd i fyny yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26A syndod a gymmerodd afael yn mhawb, a hwy a ogoneddasant Dduw, ac a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Ni a welsom bethau anhygoel heddyw.
Galwad Lefi[Mat 9:9–13; Marc 2:13–17]27Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac efe a ganfyddodd Dreth‐gasglwr, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y Dollfa: ac efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
28Ac efe a lwyr‐adawodd bob peth, ac a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.
29A Lefi a wnaeth wledd roesawol fawr iddo yn ei dŷ, ac yr oedd tyrfa fawr o Dreth‐gasglwyr ac eraill, y rhai oeddynt yn eistedd wrth fwyd gyd â hwynt.
30A grwgnach wnaeth y Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt wrth ei Ddysgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyd â'r Treth‐gasglwyr â'r Pechaduriaid?
31A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion.
32Nid wyf wedi dyfod i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch.
Yr Hen a'r Newydd[Mat 9:14–17; Marc 2:18–22]33Ond hwy a ddywedasant wrtho, Y mae Dysgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur deisyfiadau; a'r un modd hefyd Dysgyblion y Phariseaid; ond y mae dy Ddysgyblion di yn bwyta ac yn yfed.
34A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i Feibion yr Ystafell Briodas ymprydio, tra y mae y Priodas‐fab gyd â hwynt.
35Ond dyddiau a ddeuant; a phan gymmerir ymaith y Priodas‐fab oddiarnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny.
36Ac efe hefyd a ddywedodd ddammeg wrthynt, Ni wna neb rwygo dernyn oddiwrth ddilledyn newydd, a'i osod ar hen ddilledyn: os amgen, efe a rwyga y newydd, ac hefyd ni wna y dernyn oddiwrth y newydd gytuno a'r hen.
37Ac nid oes neb yn tywallt gwin newydd i hen gostrelau lledr.
39Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed yr hen, a chwenycha win newydd, canys y mae yn dywedyd, Hyfryd yw yr hen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.