Luc 15 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Ymddygiad gwahanol y Treth‐gasglwyr a'r Phariseaid.

1Ac yr oedd yr holl Dreth‐gasglwyr yn agoshâu ato, i wrando arno.

2A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion ynghyd oeddynt yn grwgnach yn ddirfawr, gan ddywedyd, Y mae hwn yn gwahodd pechaduriaid, ac yn bwyta gyd â hwynt.

Dammeg y ddafad golledig[Mat 18:12–14]

3Ac efe lefarodd y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd,

4Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un o honynt, nid yw yn gadael yn gyfangwbl y naw‐deg a naw yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon oedd wedi ei cholli, hyd oni chaffo efe hi?

5Ac wedi iddo ei chael, efe a'i gesyd hi ar ei ysgwyddau gan lawenhâu edifeirwch arnynt.

Y darn arian colledig.

8Neu pa wraig a chanddi ddeg drachma, os cyll hi un drachma, oni oleu lamp, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal hyd onis caffo ef?

9Ac wedi iddi ei gael, y mae yn galw ati ei hun ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais y drachma a gollais.

10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd Angelion Duw dros un pechadur yn edifarhâu.

Y Mab Afradlon: y Tâd Cariadlon: y brawd cul digllon.

11Ac efe a ddywedodd, Rhyw wr oedd ganddo ddau fab:

12a'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy Nhâd, dyro i mi y gyfran o'r meddianau sydd yn syrthio i mi: ac efe a ranodd iddynt y fywoliaeth.

13Ac ar ol nid llawer o ddyddiau, y mab ieuengaf a gasglodd bob peth ynghyd, ac a aeth oddi cartref ei feddianau, gan fyw yn afradlon drwy y wlad hono: ac efe ei hun a ddechreuodd ddyoddef eisieu.

15Ac efe a aeth ac a lynodd.

16Ac yr oedd efe yn awyddu cael ei ddigoni a'r cibau a fwytäi y moch: ac nid oedd neb yn rhoddi dim iddo.

17A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd ganddynt gyflawnder ar ddarfod am danaf gan newyn!

18Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau:

19mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.

20Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd ei hun. A phan oedd efe eto yn mhell oddi wrtho, ei dâd a'i gwelodd ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf, ac a'i cusanodd yn wresog.

21A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti.

22Eithr y tâd a ddywedodd wrth y gweision, Dygwch allan ar frys wisg, y goreu am ei law, a sandalau am ei draed.

23A dygwch y llô pasgedig, a lleddwch ef, a bwytawn, a byddwn lawen:

24canys fy mab hwn oedd farw.

26Ac efe a alwodd ato un o'r gweision, ac a ymofynodd beth allai y pethau hyn fod.

27Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn yn ol yn iach.

28Ond efe a aeth yn ddigllawn, ac nid oedd foddlawn i fyned i mewn. A daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd âg ef.

29Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di: ac nid esgeulusais i erioed dy orchymyn: ac ni roddaist erioed fyn i mi, fel y byddwn lawen gyd â'm cyfeillion:

30ond pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywoliaeth gyd â'r puteiniaid, ti a leddaist iddo ef lô pasgedig.

31Ond efe a ddywedodd wrtho, Fy Mhlentyn, Yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r oll sydd eiddof fi sydd eiddo ti; canys dy frawd hwn oedd farw, ac a ddaeth yn fyw, ac a fu golledig, ac a gafwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help