1Ac yn hwyr y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i weled y bedd.
2Ac wele, bu daeargryn mawr, canys Angel yr Arglwydd a ddisgynodd o'r Nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno.
3A'i ymddangosiad ef oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira.
4A rhag ei ofn ef y crynodd y gwylwyr, ac a aethant megys meirw.
5Eithr yr Angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi, canys mi a wn mai yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd, yr ydych chwi yn ei geisio.
6Nid yw Efe yma, canys cyfododd megys ag y dyweddodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd A C D L La. Diw.; gad. א B Ti. WH.
Arglwydd].7Ac ewch ar frys, a dywedwch i'w Ddysgyblion, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; ac wele, y mae Efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch Ef; wele dywedais i chwi.
8A hwy a ymadawsant ar frys oddiwrth y bedd gydag ofn a llawenydd mawr, ac a redasant i fynegu i'w Ddysgyblion.
9Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Henffych well. A hwy a ddaethant ato, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.
10Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr ymadawont i Galilea, ac yno y'm gwelant I.Twyll yr Arch‐offeiriaid.
11A hwy yn myned, wele rhai o'r gwarcheidwaid a ddaethant i'r Ddinas, ac a fynegasant i'r Arch‐offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12Ac wedi iddynt ymgasglu yn nghyd gyda'r Henuriaid, a chynnal cynghor, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr,
13gan ddywedyd, Dywedwch, Ei Ddysgyblion Ef a ddaethant o hyd nos ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
14Ac os gwrandewir yr achos hwn o flaen y Rhaglaw, ni a'i darbwyllwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddibryder.
15A chan gymmeryd yr arian, hwy a wnaethant fel y dysgwyd hwynt. A thaenwyd y gair hwn yn mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.
Awdurdod, Commissiwn, ac Addewid Crist[Marc 16:15–18]16A'r un Dysgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd y pennodasai yr Iesu iddynt.
17A phan welsant Ef, hwy a'i haddolasant; ond rhai a amheuasant.
18A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd,
Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y Nef ac ar y ddaear.
19Ewch a gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd,
Gan eu bedyddio hwy i enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân,
20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi.
Ac wele, yr wyf FI gyda chwi bob dydd.
Hyd DDIWEDD Y BYD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.