1Ac arwydd mawr a welwyd yn y nef, Gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren;
2a hi yn feichiog: a gwaeddi y mae hi mewn gwewyr, ac mewn poen i esgor.
3A gwelwyd arwydd arall yn y nef goch fawr, a saith;
4a'i chynffon hi sydd yn tynnu trydedd ran sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaear. A'r Ddraig a safodd ger bron y Wraig oedd ar fedr esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno.
5A hi a esgorodd ar fab gwrryw, yr hwn sydd ar fedr bugeilio yr holl genhedloedd â gwialen haiarn: a chipiwyd ei phlentyn hi i fyny at Dduw, ac at ei Orsedd ef;
6a'r Wraig a ffôdd i'r anialwch, lle y mae ganddi yno le wedi ei barotoi gan Dduw a'i angelion yn rhyfela â'r Ddraig; a'r Ddraig a ryfelodd, a'i hangelion;
8ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni chafwyd mwyach yn y nef.
9A bwriwyd i lawr y Ddraig fawr, yr hen Sarph, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hon sydd yn arwain ar gyfeiliorn y byd oll: a hi a fwriwyd i lawr i'r ddaear, a'i hangelion gyda hi.
Buddugoliaeth Crist a'i bobl.10A chlywais lef fawr yn y nef, yn dywedyd, Yn awr y daeth yr iachawdwriaeth a'r gallu, a Theyrnas ein Duw, ac awdurdod ei Grist ef; canys bwriwyd i lawr gyhuddwr ein brodyr, yr hwn sydd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni ddydd a nos.
11A hwy a'i gorchfygasant ef o herwydd gwaed yr Oen, ac o herwydd Gair eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu bywyd hyd angau.
12O herwydd hyn ymhyfrydwch, O nefoedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt. Gwae i'r ddaear a'r môr, canys y Diafol a ddisgynnodd i lawr atoch, a chanddo lid mawr, gan wybod fod ei dymor yn fyr.
13A phan welodd y Ddraig ei bwrw i'r ddaear, hi a erlidiodd y Wraig a esgorasai ar y plentyn gwrryw.
14A rhoddwyd i'r Wraig ddwy aden yr Eryr mawr, fel yr ehedai i'r anialwch, i'w lle, yn yr hwn y maethir hi am amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y Sarph.
15A'r Sarph a fwriodd allan o'i safn ar ol y Wraig ddwfr megys afon, fel yr achosai ei dwyn hi ymaith gyda'r ffrydlif.
16A'r ddaear a gynorthwyodd y Wraig, a'r ddaear a agorodd ei safn, ac a lyncodd yr afon yr hon a fwriodd y Ddraig allan o'i safn.
17A llidiodd y Ddraig wrth y Wraig, ac a aeth ymaith i wneuthur rhyfel â'r gweddill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw ac yn dal tystiolaeth Iesu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.