Matthew 23 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Rhith o grefydd heb y sylwedd.[Marc 12:37–40; Luc 20:45–47]

1Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i Ddysgyblion, gan ddywedyd,

2Yn nghadair Moses yr eisteddodd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid.

3Yr oll gan hyny, pa bethau bynag a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac nis gwnant.

4Ac y maent yn rhwymo yn nghyd feichiau trymion B D Δ La. Diw.; gad. א L Al. Ti. WH.

anhawdd eu dwyn], ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; eithr hwy eu hunain ni fynant eu syflyd â'u bys.

5Ond eu holl weithredoedd y maent yn wneuthur er eu gweled gan ddynion, canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn helaethu y siobynau.

6A charu y maent y lle blaenaf yn y gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,

7a'r moesgyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion, Rabbi.

8Eithr na'ch galwer chwi Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi, a chwithau oll brodyr ydych.

9Ac na elwch neb yn Dad i chwi ar y ddaear, canys un yw eich Tad, sef

yr un Nefol.

10Ac na'ch galwer chwi yn Arweinwyr, canys eich Arweinydd chwi Un ydyw, y Crist.

11A'r mwyaf o honoch fydd yn was i chwi.

12A phwy bynag a ddyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynag a ostyngo ei hun a ddyrchefir.

Y Saith Gwae: (1) Am gulni ysprydol[Luc 11:52]

13-14A gwae i chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd o flaen dynion: canys chwi eich hunain nid ewch i fewn, a'r rhai sydd yn myned i fewn nis gadewch i fyned i fewn; a phan y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab Gehenna yn ddau cymmaint a chwi eich hunain.

(3) Am dyngu i'r lleiaf ac esgeuluso y mwyaf.

16Gwae chwi, arweinyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynag a dwng i'r Cyssegr, nid yw ddim; ond pwy bynag a dwng i aur y Cyssegr, y mae efe yn rhwymedig.

17O rai ffol a dall! canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y Cyssegr a sancteiddiodd yr aur?

18Etto, pwy bynag a dwng i'r Allor, nid yw ddim, ond pwy bynag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwymedig.

19Chwi ddeillion! canys pa un sydd fwyaf, y rhodd, neu yr Allor sydd yn sancteiddio y rhodd?

20Yr hwn gan hyny a dwng i'r Allor a dwng iddi ac i'r hyn oll sydd arni.

21A'r hwn a dwng i'r Cyssegr a dwng iddo, ac i'r Hwn sydd yn preswylio ynddo.

22A'r hwn a dwng i'r Nef a dwng i Orsedd Duw ac i'r Hwn sydd yn eistedd arni.

(4) “Am hidlo gwybedyn a llyncu camel”[Luc 11:42]

23Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn rhoddi degwm o'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac yr ydych wedi esgeuluso pethau pwysicaf y Gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd hidlo y gwybedyn, ac yn traflyncu y camel!

(5) Am gadw seremonïau ac heb foesoldeb[Luc 11:37–41]

25Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond o'r tu fewn y maent yn llawn trais ac anghymmedroldeb.

26O Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddiallan i'r cyfryw.

(6) Am yr allanol teg a'r mewnol ffiaidd[Luc 11:44]

27Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwyngalchu, y rhai oddiallan ydynt yn ymddangos yn deg, ond oddifewn ydynt lawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.

28Felly chwithau hefyd, oddiallan yn wir yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond oddifewn yn llawn rhagrith ac annghyfiawnder.

(7) Am addurno y beddau, ond lladd y proffwydi[Luc 11:47–51]

29Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, ac yn addurno cofadeiliau y rhai cyfiawn,

30ac a ddywedwch, Pe buasem ni yn byw yn nyddiau ein tadau, ni fuasem ni gyd‐gyfranogion â hwynt yn ngwaed y Proffwydi.

31O ganlyniad, yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain eich bod yn feibion y rhai a lofruddiasant y Proffwydi.

32A chwithau, llenwch i fyny fesur eich tadau.

33O seirff, hiliogaeth gwiberod! pa fodd y diangwch rhag barnedigaeth Gehenna?

34O herwydd hyn, Wele, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi, a Doethion, ac Ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas;

35fel y delo arnoch chwi bob gwaed cyfiawn a dywelltir ar y ddaear, o waed Abel y Cyfiawn hyd at waed Zechariah, mab Barachiah, yr hwn a lofruddiasoch rhwng y Cyssegr a'r Allor.

36Yn wir meddaf i chwi, yr holl bethau hyn a ddeuant ar y genedlaeth hon.

Y Farn ddylynol[Luc 13:34, 35]

37O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai sydd wedi eu danfon atat, pa sawl gwaith yr ewyllysiwn gasglu dy blant yn nghyd, yr un modd ag y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nid ewyllysiech chwi!

38Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn annghyfannedd:

39canys meddaf i chwi, ni'm gwelwch o hyn allan, hyd oni ddywedwch, Bendigedig yw Yr‐Hwn‐sydd-yn‐dyfod yn enw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help