1Dylynwch gariad, a byddwch eiddigeddus am ddoniau ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch.
2Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y mae yn llefaru dirgeledigaethau.
3Ond yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, annogaeth, a dyddanwch.
4Yr hwn sydd yn llefaru â thafod sydd yn adeiladu ei hunan, ond yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn adeiladu yr eglwys.
5Yn awr mi a ewyllysiwn i'r oll o honoch lefaru â thafodau, ond yn hytrach brophwydo o honoch: a mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo ddeongli, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.
6Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa leshâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych mewn ffordd o ddadguddiad, neu wybodaeth, neu brophwydoliaeth, neu athrawiaeth.
7Hyd y nod pethau heb fywyd, wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, os na roddant wahaniaeth yn y seiniau hefyd a rydd sain ansicr, pwy a ymbarotoa i ryfel?
9Felly chwithau hefyd, trwy lefaru â thafod, os na thraethwch ymadrodd hawdd ei ddeall, pa fodd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.
10Y mae, debygir, gynnifer o rywogaethau o leisiau yn y byd, ac nid oes un yn ddilafar.
11Os nad wyf gan hynny yn gwybod ystyr y llais, mi a fyddaf i'r hwn sydd yn llefaru yn farbariad, a'r hwn sydd yn llefaru fydd i minnau yn farbariad.
12Felly chwithau hefyd, gan eich bod yn awyddus am ddoniau ysprydol, ceisiwch er adeiladaeth yr eglwys i ymhelaethu ynddynt.
13Gan hynny, yr hwn sydd yn llefaru â thafod, gweddïed ar iddo allu deongli.
14Canys os gweddïaf â thafod, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.
15Beth gan hynny? mi a weddïaf â'r yspryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd; canaf fawl â'r yspryd, a chanaf fawl yr Amen ar dy roddi diolch di, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?
17Canys tydi yn ddiau wyt yn diolch yn dda, ond y llall nid adeiledir.
18Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod i yn llefaru â thafod yn fwy na chwi oll:
19ond yn yr eglwys ewyllysiaf yn hytrach lefaru pum gair â'm deall, fel y dysgwyf mewn meddwl, eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn meddwl, byddwch ddynion addfed.
21Yn y Ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai o dafodau dyeithr, a thrwy wefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd y nod felly ni'm gwrandawant, medd yr Arglwydd.
22Felly, tafodau ydynt er arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr prophwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu.
23Gan hynny, os daw yr eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod o rai annghyfarwydd neu ddigred i mewn, oni ddywedant eich bod allan o'ch pwyll?
24Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o un digred neu annghyfarwydd i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, gelwir ef i gyfrif gan bawb.
25Gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly wedi syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddadgan,
Yn wir, y mae Duw yn eich plith.
26Beth yw gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo dafod, y mae ganddo ddeongliad.
27Gwneler pob peth er adeiladaeth. Os llefara un â thafod, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a phob un yn ei dro; a deongled un.
28Eithr os na fydd deonglwr, tawed yn yr eglwys, a llefared wrtho ei hun ac wrth Dduw.
29A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y lleill.
30Ac os dadguddir dim i un arall yn eistedd yno, tawed y cyntaf.
31Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac yr annoger pawb.
32Ac y mae ysprydoedd prophwydi yn ddarostyngedig i brophwydi.
33Canys nid yw Duw yn awdwr annhrefn ond tangnefedd.
Y Gwragedd yn yr Eglwysi.34Fel yn holl eglwysi y saint, tawed y gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniateir iddynt hwy lefaru; eithr bydded iddynt fod yn ddarostyngedig, megys hefyd y dywed y Gyfraith.
35Ac os ewyllysiant ddysgu dim, ymofynant â'u gwŷr eu hunain gartref; oblegyd cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36Ai oddiwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai attoch chwi yn unig y daeth efe?
37Os tybia neb ei fod yn brophwyd, neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt.
38Eithr os yw neb heb wybod, bydded heb wybod.
39Gan hynny, fy mrodyr, byddwch dra‐awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau.
40Eithr gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.