2 Corinthiaid 1 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyfarchiad ac Arweiniad i mewn.

1Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyda'r holl saint sydd yn holl Achaia;

2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3Bendigedig fyddo

Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y tosturiaethau a Duw pob dyddanwch,

4yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y rhai sydd ym mhob gorthrymder, trwy y dyddanwch â'r hwn y'n dyddenir ni ein hunain gan Dduw.

5Canys fel y mae dyoddefiadau Crist yn gorlifo i ni, felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni yn gorlifo.

6Ond pa un bynnag ai ein gorthrymmu yr ydys, er mwyn eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae, yr hwn sydd yn gweithio yng ngoddefiad dewr yr un dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau hefyd yn eu dyoddef,

7ac y mae ein gobaith am danoch yn ddiysgog; ai ein dyddanu yr ydys, er eich dyddanwch a'ch iachawdwriaeth chwi y mae; gan wybod mai, megys yr ydych yn gyfrannogion o'r dyoddefiadau, felly hefyd yr ydych o'r dyddanwch.

8Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein gorthrymder a ddygwyddodd yn Asia, mai yn ddirfawr, tu hwnt i'n gallu, y pwyswyd yn drwm arnom, nes i ni anobeithio yn hollol hyd y nod i gael byw;

9ië, yr ydym ni ein hunain wedi cael ynom ein hunain yr atteb o farwolaeth, fel na fyddem yn ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw;

10yr hwn a'n gwaredodd ni allan o'r cyfryw ddirfawr farwolaeth, ac a'n gwared: yn yr hwn yr ydym wedi gobeithio y gwared ni etto hefyd,

11a chwychwi yn cyd‐gynorthwyo ar ein rhan trwy eich deisyfiad, fel, am y rhodd a rodded i ni trwy lawer, y rhoddid diolch trosom gan lawer o bersonnau.

Ymddiffyniad Paul o'i ymddygiad.

12Canys ein hymffrost ni yw hyn, tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn sancteiddrwydd a'r purdeb, nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngras.

13Canys nid ydym yn ysgrifennu pethau eraill attoch amgen na'r rhai yr ydych yn eu darllen, neu hyd y nod yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd;

14fel hefyd y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich ymffrost chwi, fel ag yr ydych chwi ein hymffrost ni, yn Nydd ein Harglwydd Iesu.

15Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn chwennych dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail ras;

16a thrwoch chwi fyned trwodd i Macedonia, a dyfod drachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennych i Judea.

17Gan hynny pan yn chwennych hyn, a arferais i yn wir ysgafnder o gwbl? Neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi yr Ië, Ië, a'r Nage, Nage?

18Eithr ffyddlawn yw Duw fod ein hymadrodd ni wrthych chwi nid yn Ië a Nage.

19Canys Mab Duw,, eithr y mae wedi dyfod yn Ië ynddo ef.

20Canys cynnifer ag yw addewidion Duw, ynddo ef mae yr Ië; o herwydd hynny hefyd trwyddo ef mae yr Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.

21A'r hwn sydd yn ein cadarnhâu ni gyda chwi yng Nghrist, ac a'n henneiniodd ni, yw Duw;

22yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roddodd i ni ernes yr Yspryd yn ein calonnau.

23Ac yr wyf yn galw Duw yn dyst yn erbyn fy enaid, mai er eich arbed ni ddaethum i etto i Corinth:

24nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i'ch llawenydd; oblegyd trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help