1Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r Mynydd, tyrfaoedd lawer a'i canlynasant ef.
2Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth ato, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i.
3Ac efe a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynaf, bydd lân. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.
4A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel na ddywedi wrth neb; eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma y rhodd a benododd Moses, er tystiolaeth iddynt.Iachâu Gwas y Canwriad.[Luc 7:1–10]
5Ac wedi dyfod o hono i fewn i Capernaum, daeth ato Ganwriad,
6gan ddeisyfu arno, a dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen dirfawr.
7Ac efe a ddywed wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachaf ef.
8A'r Canwriad a atebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed mewn gair, a'm gwas a iacheir.
9Canys dyn ydwyf finau hefyd gydag un dyn yn Israel ni chefais gymmaint ffydd.
11Ac yr wyf yn dywedyd i chwi y daw llawer o'r Dwyrain a'r Gorllewin, ac a eisteddant i lawr gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob yn Nheyrnas Nefoedd:
12ond meibion y deyrnas a deflir allan i'r tywyllwch y tu allan; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.
13A dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, Dos ymaith, megys y credaist, bydded i ti. A'r gwas a iachawyd yn yr awr hono.
Iachâu Chwegrwn Petr ac ereill.[Marc 1:29–34; Luc 4:38–41]14A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr yn gorwedd, ac mewn twymyn.
15Ac efe a gyffyrddodd a'i llaw hi, a'r dwymyn a'i gadawodd hi; a hi a gododd, ac a weinyddodd iddo.
16A phan ddaeth yr hwyr, hwy a ddygasant ato lawer o rai a feddiannid gan gythreuliaid, ac efe a fwriodd allan yr ysprydion â gair, ac a iachaodd yr holl gleifion,
17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaiah y Proffwyd, gan ddywedyd.
“Efe a gymmerodd ein gwendidau, ac a ddug ymaith ein clefydau.”Yn nghylch canlyn Crist.[Luc 9:51–60]
18A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynodd ymadael i'r lan arall.
19A rhyw Ysgrifenydd a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych.
20A'r Iesu a ddywed wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, a chan ehediaid y nefoedd drigfanau; ond gan Fab y Dyn nid oes le i roddi ei ben i orphwys.
21Ac un arall o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad.
22A'r Iesu a ddywed wrtho, Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.
Tawelu y dymhestl.[Marc 4:35–41; Luc 8:22–25]23Ac wedi myned o hono i gwch, ei Ddysgyblion a'i canlynasant ef.
24Ac wele bu cynhwrf mawr yn y môr hyd oni chuddiwyd y cwch gan y tonau; eithr efe oedd yn cysgu.
25A daethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, achub, collir ni.
26Ac efe a ddywed wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cyfododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr.
27A'r dynion hefyd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo?
Gadara: Y Cythreuliaid a'r Moch.[Marc 5:1–20; Luc 8:26–39]28Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gadareniaid yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd hono.
29Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?
30Ac yr oedd yn mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer yn pori.
31A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i'r genfaint foch.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch; a hwy wedi myned allan, a aethant i'r moch; ac wele, yr holl genfaint a ruthrasant dros y dibyn i'r môr, ac a fuont feirw yn y dyfroedd.
33A'r porthwyr a ffoisant; ac wedi eu dyfod yn ol i'r Ddinas, hwy a fynegasant yr oll; a'r pethau a ddarfuasent i'r rhai a feddiannid gan gythreuliaid.
34Ac wele, yr holl Ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu; a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.