1Fy mrodyr, na ddeliwch ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, y Gogoniant, gyda derbyn wyneb.
2Oblegyd os daw i mewn i'ch cyfarfod ŵr a modrwy aur mewn gwisg ddisgleirwych, a dyfod i mewn hefyd ddyn tlawd mewn gwisg wael;
3a chymeryd o honoch sylw o'r hwn sydd yn gwisgo y wisg ddisgleirwych, a dywedyd, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y dyn tlawd, Saf di yna, neu eistedd îs law fy ystol‐droed i;
4ai nid ydych wedi gwneud gwahaniaeth yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr gyda meddyliau drwg?
5Gwrandêwch, fy mrodyr anwyl; Oni ddewisodd Duw y tlodion yng ngolwg y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y Deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
6Eithr chwi a ddianrhydeddasoch y tlawd. Onid yw y rhai goludog yn arglwyddiaethu arnoch, a hwynt‐hwy sydd yn eich llusgo gerbron llysoedd?
7Onid hwy sydd yn cablu yr Enw anrhydeddus yr hwn a elwir arnoch chwi?
8Os, yn wir, yr ydych yn cyflawnu y gyfraith frenhinol yn ol yr Ysgrythyr, Câr dy gymydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur.
9Ond os derbyn‐wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, gan gael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megys troseddwyr.
10Canys pwy bynnag a gadwo y Gyfraith i gyd oll, ac a dripio mewn un pwynt, y mae wedi myned yn euog o'r cwbl.
11Canys yr hwn a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, ond a leddi, yr wyt wedi myned yn droseddwr y Gyfraith.
12Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel rhai ar gael eu barnu wrth Gyfraith rhyddid.
13Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn na wnaeth drugaredd. Y mae trugaredd yn gorfoleddu uwch ben barn.
Perthynas Ffydd a Gweithredoedd.14Pa lesâd yw, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ond heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon y ffydd honno ei gadw ef?
15Os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu ymborth beunyddiol,
16a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymwch ac ymborthwch; a chwi heb roddi iddynt angenrheidiau y corph, pa lesâd fydd
?17Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun.
18Ond dywed rhyw un, Tydi ffydd sydd gennyt, a minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd ar wahan oddi wrth dy weithredoedd, a minnau a ddanghosaf i ti trwy fy ngweithredoedd fy ffydd innau.
19Yr wyt ti yn credu mai un yw Duw, da yr wyt yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu ac yn arswydo?
20Eithr a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd ar wahân oddi wrth weithredoedd yn ddiffrwyth?
21Abraham ein tâd ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd Isaac, ei fab, ar yr allor?
22Ti a weli fod ffydd yn cyd‐weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ffydd a sylweddolwyd;
23a chyflawnwyd yr Ysgrythyr yr hon sydd yn dywedyd, A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, a Chyfaill Duw y galwyd ef.
24Chwi a welwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnhêir dyn, ac nid trwy ffydd yn unig.
25Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhâwyd hi, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?
26Canys megys y mae y corph ar wahân a'r yspryd yn farw, felly hefyd ffydd ar wahân oddiwrth weithredoedd, marw yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.