1Y pryd hwnw y clybu Herod y Tetrarch son am yr Iesu;
2ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Ioan Fedyddiwr ei hun yw hwn: efe a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac am hyny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
Carchariad a marwolaeth Ioan Fedyddiwr.[Marc 6:17–29; Luc 3:19, 20]3Canys Herod a ddaliodd Ioan, ac a'i rhwymodd, ac a'i dododd yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd ef.
4Canys dywedodd Ioan wrtho, Nid yw gyfreithlawn i ti ei chael hi.
5Ac efe yn ewyllysio ei ladd ef a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cyfrifent ef fel proffwyd.
6Eithr pan ddaeth gŵyl ddydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias yn y canol, ac a ryngodd fodd Herod.
7O ba herwydd efe, gyda llw, a addawodd roddi iddi beth bynag a ofynai.
8A hithau, wedi ei hannog yn mlaen gan ei mam, a ddywed, Dyro i mi yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.
9A'r brenin a dristhawyd. O herwydd ei lwon, a'r rhai a eisteddent gydag ef, efe a orchymynodd ei roddi.
10Ac efe a anfonodd ac a dorodd ymaith ben Ioan yn y carchar.
11A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances; a hi a'i dug ef i'w mam.
12A'i ddysgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant i fyny y corff, ac a'i claddasant ef; ac a aethant ac a fynegasant i'r Iesu.
Diwallu y pum' mil.[Marc 6:31–44; Luc 9:10–17; Ioan 6:1–14]13Eithr pan glybu yr Iesu, efe a ymneillduodd oddiyno mewn cwch i annghyfanneddle yn ddirgelaidd, ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac a iachaodd eu cleifion hwynt.
15A phan ddaeth yr hwyr, daeth y Dysgyblion ato gan ddywedyd, Y lle sydd annghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng ymaith y torfeydd, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fwyd.
16Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17A hwy a ddywedant wrtho, Nid oes genym ni yma ond pum' torth a dau bysgodyn.
18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y glaswellt, a chymmeryd y pum' torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny i'r nef, ac a fendithiodd ac a dorodd ac a roddodd y torthau i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion i'r torfeydd.
20A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digoni; ac a godasant weddill y briwfwyd, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21A'r rhai a fwytasant oeddynt yn nghylch pum' mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant.
Y gwynt cryf a ffydd wan.[Marc 6:45–56; Ioan 6:15–21]22Ac yn ebrwydd y perodd efe i'r Dysgyblion fyned i gwch, ac i'w ragflaenu i'r lan arall, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd.
23Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i'r mynydd o'r neilldu, i weddio; a phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yno yn unig.
24Ond y cwch oedd weithian yn nghanol y môr, yn drallodus gan y tonau, canys yr oedd y gwynt yn groes.
25Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos daeth efe atynt, yn rhodio ar y môr.
26A phan welodd y Dysgyblion ef ar y môr yn rhodio, hwy a gythryblwyd, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw! A hwy a waeddasant gan ofn.
27Ac yn ebrwydd y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch galon, Myfi ydyw: nac ofnwch.
28A Phetr a'i hatebodd ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, os Tydi yw, arch i mi ddyfod atat Ti ar y dyfroedd.
29Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r cwch, efe a rodiodd ar y dyfroedd, ac a ddaeth at yr Iesu.
30Ond pan welodd efe y gwynt, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, achub fi.
31Ac yn ebrwydd yr Iesu a estynodd ei law, ac a ymaflodd ynddo, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham yr amheuaist?
32A phan yr aethant i fyny i'r cwch, tawelodd y gwynt.
33A'r rhai oeddynt yn y cwch a ddaethant, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir, Mab Duw ydwyt ti.
34Ac wedi iddynt fyned drosodd, hwy a ddaethant at y tir, i Gennesaret.
35A phan adnabu gwŷr y lle hwnw ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad hono o amgylch, ac a ddygasant ato yr holl gleifion;
36ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer a gyffyrddodd a wnaed yn holliach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.