2 Corinthiaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Unig amcan yr Apostol: eu cynnydd ysprydol.

1Eithr mi a benderfynnais hyn i mi fy hun, na ddeuwn drachefn mewn tristwch attoch.

2Oblegyd os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw yr hwn ynte a'm llonna i, ond yr hwn a dristâwyd gennyf fi?

3Ac ysgrifennais hyn yma, rhag, pan ddelwn, y cawn dristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd; gan hyderu ynoch oll fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch.

4Canys o orthrymder lawer ac o gyfyngder lawer, nid fel y tristêid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag attoch chwi.

5Ond os oes neb wedi peri tristwch, nid i myfi y mae wedi peri tristwch, ond mewn rhan (fel na phwyswyf yn ormodol) i chwi oll.

6Digon i'r cyfryw un yw y gosp y dylech yn hytrach faddeu iddo a'i ddyddanu, rhag rhywfodd i'r cyfryw gael ei lyngcu gan ormod tristwch.

8Gan hynny yr wyf yn attolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag atto.

9Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch, a ydych yn ufudd ym mhob peth.

10Ac i'r hwn yr ydych yn maddeu dim, yr wyf finnau hefyd: canys yr hyn hefyd yr wyf wedi ei faddeu, os maddeuais ddim, er eich mwyn chwi y maddeuais ef ym mherson Crist,

11fel nad enniller mantais arnom gan Satan, canys nid ydym heb wybod ei ddyfeision ef.

Dyfodiad Titus.

12Ac wedi dyfod i Troas er efengyl Crist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd,

13ni chefais esmwythâd i'm hyspryd, gan na chefais Titus fy mrawd; eithr wedi canu yn iach iddynt, mi a aethum allan i Macedonia.

14Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn ein harwain mewn buddugoliaeth yng Nghrist, ac yn amlygu arogledd y wybodaeth o hono trwom ni ym mhob lle;

15canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig ac yn y rhai colledig:

16i'r naill yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd. Ac i'r pethau hyn, pwy sydd ddigonol?

17Canys nid ydym ni fel y llawer yn llygru gair Duw; eithr megys o burdeb, megys o Dduw, wyneb yn wyneb â Duw, yng Nghrist yr ydym yn llefaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help