Matthew 19 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist yn myned i Judea, ac yn iachau clefydau.

1A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i gyffiniau Judea, y tu hwnt i'r Iorddonen.

2A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

Cyssegredigrwydd Priodas.[Marc 11:10–12]

3A daeth Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd, A ydyw gyfreithlawn i ddyn ysgar â'i wraig am bob achos?

4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i'r hwn a'u creodd hwynt o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a banyw ac a ddywedodd,

5Oblegyd hyn y gâd dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a'r ddau a fyddant un cnawd;

6fel nad ydynt mwyach yn ddau, ond un cnawd. Yr hyn, gan hyny, a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.

7Y maent hwythau yn dywedyd wrtho, Paham, gan hyny, y gorchymynodd Moses roddi iddi ysgrif ysgar, a'i gollwng ymaith?

8Ac efe a ddywed wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd. Ond o'r dechreu nid oedd felly.

9Eithr meddaf i chwi, Pwy bynag a ysgaro â'i wraig, nid am odineb, ac a briodo un arall, y mae yn gwneuthur godineb; Diw.; gad. א D Ti. Al. WH. y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd yn gwneuthur godineb.]

10Ei Ddysgyblion a ddywedant wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gwr a gwraig, nid buddiol priodi.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y mae wedi ei roddi iddynt.

12Canys y mae eunuchiaid y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas Nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.Plant yn derbyn bendith.[Marc 10:13–16; Luc 18:15–17]

13Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y gosodai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai; ond y Dysgyblion a'u ceryddasant hwynt.

14Eithr yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain, ac na rwystrwch hwynt i ddyfod ataf fi, canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd.

15Ac efe a osododd ei ddwylaw arnynt, ac a aeth ymaith oddiyno.

Y Llywodraethwr hunan‐gyfiawn[Marc 10:17–22; Luc 18:18–23]

16Ac wele un a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, Pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragwyddol?

17Ac efe a ddywedodd wrtho, Paham yw y Da; ond, os ewyllysi fyned i fewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion.

18Yntau a ddywed wrtho, Pa rai? Yr Iesu a ddywedodd, Hwn,

Na lofruddia,

Na odineba,

Na ladrata,

Na chamdystiolaetha,

19Anrhydedda dy dad a'th fam,

ac,

Câr dy gymmydog fel ti dy hun.

20Y gwr ieuanc a ddywed wrtho, Y rhai hyn oll a gedwais; yn mha beth etto wyf ddiffygiol?

21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd; a thyred, canlyn fi.

22A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd iddo feddiannau lawer.

Peryglon cyfoeth.[Marc 10:23–27; Luc 18:24–27]

23A'r Iesu a ddywedodd wrth y Dysgyblion, Yn wir, meddaf i chwi, Yn anhawdd yr ä goludog i fewn i Deyrnas Nefoedd.

24A thrachefn meddaf i chwi, Rhwyddach yw i gamel.

25A phan glybu ei Ddysgyblion, hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig?

26A'r Iesu a edrychodd ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion hyn sydd anmhossibl, ond gyda Duw pob peth sydd bossibl.

Y wobr o ganlyn Crist.[Marc 10:28–31; Luc 18:28–30; 22:28–30]

27Yna Petr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, ni a adawsom bob peth ac a'th ganlynasom di; pa beth, gan hyny, a fydd i ni?

28A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, meddaf i chwi, Cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch I yn yr Ail‐enedigaeth, pan eisteddo Mab y Dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd eich hunain hefyd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29A phob un a'r a adawodd frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, neu dai, er mwyn fy enw I, a dderbynia lawer mwy, ac a etifedda fywyd tragwyddol.

30Ond llawer fyddant olaf sydd flaenaf, a blaenaf sydd olaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help