1A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen, a dywedodd, Cyfod, a mesura Gysegr Duw, a'r Allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddo.
2A'r cyntedd sydd o'r tu allan i'r Cysegr gâd allan, ac na fesura ef; canys rhoddwyd ef i'r cenhedloedd, a'r Ddinas Sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain.
Y Ddau Dyst.3A rhoddaf i'm Dau Dyst, a hwy a brophwydant fil a deucant a thri‐ugain o ddyddiau, wedi ymwisgo â sachlian.
4Y rhai hyn yw y Ddwy Olewydden a'r Ddau Ganwyllyr, sydd yn sefyll ger bron Arglwydd y ddaear.
5Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difa eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu niweidio hwynt, fel hyn y mae yn rhaid iddo gael ei ladd.
6Y mae gan y rhai hyn y gallu i gau y nef, fel na wlawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt; ac y mae gallu ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro y ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.
7A phan orphennont eu tystiolaeth, yr Anghenfil, yr hwn sydd yn dyfod i fyny o Annwn, a wna ryfel â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt;
8ac y mae eu corph marw ar heol lydan y Ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir yn Sodom ac yn Aipht, lle hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd hwynt.
9Ac edrychant o blith y bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, ar eu corph marw am dridiau a hanner; ac ni chaniatânt osod eu cyrph hwynt mewn bedd.
10A'r rhai a drigant ar y ddaear a lawenychant drostynt, ac a ymddifyrrant; ac y maent yn danfon rhoddion i'w gilydd; oblegyd y ddau brophwyd hyn a boenasant y rhai oedd yn trigo ar y ddaear.
11Ac ar ol tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt, a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.
12A chlywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. Ac aethant i fyny i'r nef yn y cwmwl; a'u gelynion a'u gwelsant hwynt.
13Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaear‐gryn saith mil o ddynion: a'r lleill a aethant yn ofnus, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef.
14Yr ail wae a aeth heibio; wele, y drydedd wae sydd yn dyfod ar frys.
Y seithfed udgorn.15A'r seithfed angel a udganodd, a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth Teyrnas y Byd yn Deyrnas ein Harglwydd ni a'i Grist Ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.
16A'r pedwar henuriad ar hugain, y rhai sydd yn eistedd ger bron Duw ar eu gorseddau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
17gan ddywedyd,
Diolchwn i ti, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog,
Yr Hwn Ydyw, a'r Hwn Oedd,
Oblegyd cymeryd o honot dy allu mawr, a theyrnasu;
18A'r Cenhedloedd a lidiasant, a daeth dy lid di,
A thymor y meirw i gael eu barnu:
I roddi eu gwobr i'th weision y prophwydi, ac i'th saint,
Ac i'r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion,
Ac i ddyfetha y rhai sydd yn dyfetha y ddaear.
19Yna yr agorwyd Cysegr Duw, yr hwn sydd yn y nef; a gwelwyd Arch ei Gyfamod ef yn ei Gysegr; a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.