Colossiaid 2 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Sefydlogrwydd yng Nghrist.

1Canys yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod cymmaint fy ymdrech drosoch chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ni welsant fy wyneb i yn y cnawd,

2fel y dyddaner eu calonnau hwy, wedi eu huno ynghyd mewn cariad ac i holl olud llawn‐sicrwydd deall, i lawn‐wybodaeth o ddirgelwch Duw, Crist;

3yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.

4A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na bo i neb eich cam‐arwain trwy ymadrodd hudol;

5canys er fy mod yn absennol yn y cnawd, etto yr wyf gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu a gweled eich trefn a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.

6Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, ynddo rhodiwch:

7wedi eich gwreiddio ac yn cael eich adeiladu i fyny ynddo, a'ch cadarnhâu yn y ffydd, fel y'ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch.

Rhybudd yn erbyn cyfeiliornad.

8Edrychwch na bo neb yn gwneyd ysbail o honoch trwy athroniaeth a gwag dwyll, yn ol traddodiad dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist.

9Oblegyd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn trigo yn gorphorol.

10Ac yr ydych chwi ynddo yn cael eich llanw, yr hwn yw Pen pob llywodraeth ac awdurdod;

11yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, mewn diosg corph y cnawd yn enwaediad Crist;

12wedi eich cydgladdu gydag ef yn y Bedydd, yn yr hwn hefyd y'ch cyd‐gyfodwyd trwy ffydd yng ngweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfododd ef o'r meirw.

13A chwithau, gan fod yn feirw trwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd — chwychwi a gyd‐fywhâodd efe gydag ef, wedi maddeu i ni yr holl gamweddau,

14wedi dileu yr ysgrifen‐law mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn, a'r hon a symmudodd efe i ffwrdd, gan ei hoelio wrth y Groes;

15ac wedi ysgwyd ymaith oddiwrtho ei hun y llywodraethau a'r awdurdodau, efe a wnaeth arddangosiad o honynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

Gadael ofergoeledd, a glynnu wrth y Pen.

16Gan hynny na fydded i neb i'ch barnu mewn bwytta nac mewn yfed, neu yn y mater o ddydd gŵyl neu newydd‐loer, neu ddydd Sabbath,

17y rhai ydynt gysgod o bethau ar ddyfod, ond y sylwedd sydd eiddo Crist.

18Nac yspeilied neb chwi o'ch gwobr, gan ymhyfrydu mewn gostyngeiddrwydd ac addoliad angylion, gan sefyll ar y pethau a welodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan feddwl ei gnawd,

19ac heb ddal ei afael yn y Pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, gan gael ei gyflenwi a'i gyd‐gyssylltu trwy y cymmalau a'r gewynau, yn cynnyddu â chynnydd Duw.

20Os buoch feirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham fel yn byw yn y byd, yr ydych yn glynu wrth ordeiniadau, megys:

21Na theimla, Nad archwaetha, Na chyffwrdd

22(y rhai ydynt oll i ddarfod wrth eu harfer), yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion?

23Y cyfryw bethau sydd ganddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad hunan‐osodol, a gostyngeiddrwydd, a thriniaeth ddiarbed o'r corph, heb fod o un gwerth yn erbyn boddhâd y cnawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help