Actau 11 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Cyhuddo Petr a'i amddiffyniad, 1–17

1A'r Apostolion a'r brodyr oedd ar hyd Judea a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw.

2A phan aeth Petr i fyny i Jerusalem, y rhai o'r Enwaediad a ymrysonasant ag ef,

3gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wyr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt.

4Eithr Petr a ddechreuodd ac a osododd allan yr oll iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,

5Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio; a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr megys llen‐llian fawr yn disgyn, wedi ei gollwng i lawr o'r Nef, wrth ei phedair congl, ac a ddaeth hyd ataf fi:

6i'r hon wedi edrych yn graff, mi a ddwys‐ystyriais ac a welais anifeiliaid pedwar‐troediog y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y Nef.

7Ac mi a glywais lef hefyd yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Petr: lladd a bwyta.

8A dywedais, Na wnaf er dim, Arglwydd, canys peth

cyffredin neu aflan nid aeth erioed i mewn i'm genau.

9Ac atebodd llais eilwaith o'r Nef, Y pethau a lanhâodd Duw na wna di yn gyffredin.

10A hyn a wnaed dair gwaith: a thynwyd i fyny drachefn y cwbl i'r Nef.

11Ac wele, yn ddioed safai tri o wyr wrth y ty yn yr hwn yr oeddem, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi.

12A dywedodd yr Yspryd wrthyf am fyned gyda hwynt, heb wneuthur gwahaniaeth. A'r chwe brodyr hyn hefyd a aethant gyda mi; ac ni a aethom i mewn i dy y gwr;

13a mynegodd i ni pa fodd y gwelodd efe yr Angel yn ei dy, yn sefyll ac yn dywedyd, Anfon i Joppa, a danfon am Simon, a gyfenwir Petr;

14yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y'th achubir di a'th holl dy.

15A phan yr oeddwn yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt, megys arnom ni yn y Dechreuad.

16A mi a gofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân.

17Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw?

18Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant, ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch i fywyd.

Lledaeniad yr Efengyl hyd ac yn Antioch, 19–26.

19A'r rhai gan hyny yn wir a wasgarwyd mewn canlyniad i'r blinder a gyfododd ar gyfrif Stephan, a dramwyasant hyd yn Phœnicia, a Cyprus, ac Antioch, heb lefaru y Gair wrth neb ond yr Iuddewon yn unig.

20A rhai o honynt, gwyr o Cyprus a Cyrene, yn gyfryw rai, wedi dyfod i Antioch, a lefarent hefyd wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.

21Ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; hefyd nifer mawr y rhai a gredasant a droisant at yr Arglwydd.

22A'r son am danynt hwy a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a hwy a anfonasant allan Barnabas hyd Antioch;

23yr hwn pan gyrhaeddodd, a gweled gras Duw, a lawenychodd, ac a gynghorodd bawb â llwyr‐fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd:

24oblegyd yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Yspryd Glân a ffydd: ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd.

25Ac efe a aeth ymaith i Tarsus i chwilio am Paul,

26ac wedi ei gael, efe a'i dyg i Antioch. A bu iddynt am flwyddyn gyfan ymgynull yn yr Eglwys, a dysgu tyrfa fawr, a galw yn gyntaf yn Antioch y dysgyblion yn Gristionogion.

Prophwydoliaeth am newyn: haelionusrwydd yr Eglwys yn Antioch, 27–30.

27Ac yn y dyddiau hyny y daeth prophwydi o Jerusalem i waered i Antioch.

28Ac un o honynt, o'r enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocâodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl ddaear gyfaneddol: yr hwn a ddygwyddodd yn amser Claudius.

29A'r dysgyblion, pob un fel yr oedd yn llwyddo, a benderfynasant anfon er gweinyddu cymhorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Judea:

30yr hyn hefyd a wnaethant, trwy ddanfon at yr Henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help