1Ac wrth fyned heibio, efe a welodd ddyn dall o'i enedigaeth.
2A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y ganwyd ef yn ddall?
3Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: ond ganwyd ef yn ddall fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.
4Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i, tra yr ydyw hi yn ddydd: dyfod y mae nos pan na ddichon neb weithio.
5Pa bryd bynag yr wyf yn y byd, yr wyf Oleuni i'r byd.
6Wedi iddo ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a eneiniodd ei glai ef ar y llygaid,
7ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, ac ymolch yn Llyn Siloam (yr hyn a gyfieithir, Anfonedig). Efe a aeth ymaith gan hyny, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
Ei gyfaddefiad.8Gan hyny ei gymydogion a'r rhai oeddynt yn dal sylw arno o'r blaen ei fod yn gardotyn, a ddywedasant, Onid hwn yw yr un sydd yn eistedd ac yn cardota?
9Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe; eraill a ddywedasant, Nag ê, ond y mae yn debyg iddo: yntau a ddywedodd, Myfi yw.
10Gan hyny hwy a ddywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?
11Ac efe a atebodd, Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a eneiniodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith i Siloam, ac ymolch. Wedi myned ymaith gan hyny ac ymolch mi a dderbyniais fy ngolwg.
12A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Y mae efe yn dywedyd, Ni wn i.
Ei holiad gan y Phariseaid.13Y maent yn ei ddwyn ef at y Phariseaid, sef, yr hwn oedd gynt yn ddall.
14Ac yr oedd yn Sabbath ar y dydd pan wnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef.
15Gan hyny y Phariseaid hefyd oeddynt yn gofyn iddo drachefn, pa fodd y derbyniodd ei olwg. Ond efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.
16Gan hyny dywedodd rhai o'r Phariseaid, Nid yw y dyn hwn oddiwrth Dduw, canys nid yw yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymraniad yn eu plith.
17Y maent yn dywedyd gan hyny drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef? oblegyd efe a agorodd dy lygaid di. Ac efe a ddywedodd, Proffwyd yw.
Holiad ei rieni.18Yr Iuddewon gan hyny ni chredasant am dano ef, mai dall fuasai, a derbyn o hono ei olwg, hyd nes galw o honynt rïeni y dyn ei hun a dderbyniasai ei olwg.
19A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? Pa fodd gan hyny y mae efe yn gweled yn awr?
20Ei rïeni ef a atebasant ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai ein mab yw hwn, ac mai yn ddall y ganwyd ef.
21Ond pa fodd y mae efe yn awr yn gweled, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid, nis gwyddom ni: gofynwch iddo ef ei hun; y mae efe o oedran: efe ei hun a lefara am dano ei hun.
22Y pethau hyn a ddywedodd ei rïeni ef, am eu bod yn ofni yr Iuddewon: canys yr oedd yr Iuddewon wedi gwneyd cytundeb eisioes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y byddai yn esgymunedig o'r Synagog:
23o herwydd hyn ei rieni efe a ddywedasant, Y mae efe o oedran; gofynwch iddo ef.
Ei‐groes‐holiad a'i esgymuniad.24Gan hyny hwy a alwasant y dyn yr ail waith, sef yr hwn a fuasai ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro y gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dyn hwn.
25Efe gan hyny a atebodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, fy mod i, ddyn dall, yn awr yn gweled.
26Gan hyny hwy a ddywedasant wrtho, Beth a wnaeth efe i ti? Pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?
27Efe a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisioes, ac ni wrandawsoch; paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? A ydych chwithau hefyd yn ewyllysio bod yn ddysgyblion iddo ef?
28A hwy a'i difenwasant, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddysgybl iddo ef; ond nyni ydym ddysgyblion Moses.
29Yr ydym yn gwybod fod Duw wedi llefaru wrth Moses; ond hwn, nis gwyddom o ba le y mae.
30Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Wel! yn hyn y mae y rhyfeddod! na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac eto efe a agorodd fy llygaid i.
31Ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid; ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnw y mae yn ei wrando.
32O'r Dechreuad ni chlybuwyd i neb agor llygaid yr hwn a anesid yn ddall.
33Oni bai fod hwn oddi wrth Dduw, ni allai efe wneuthur dim.
34Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti yn gyfan‐gwbl, ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a'i bwriasant ef allan.
Ei dderbyniad gan Crist.35Yr Iesu a glybu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan; a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu yn Mab y Dyn?
36Yntau a atebodd ac a ddywedodd, A phwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?
37Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt hyd y nod wedi ei weled, a'r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnw yn efe y daethum i'r byd hwn, fel y gwelai y rhai nad ydynt yn gweled, ac fel yr elai y rhai sydd yn gweled yn ddeillion.
40Hwy o'r Phariseaid a oedd gyd âg ef a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, A ydym ni hefyd yn ddeillion?
41Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech ddeillion, ni fuasai arnoch bechod; ond yn awr yr ydych yn dywedyd, Yr ydym yn gweled: y mae eich pechod yn aros.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.