1A nyni, y galluog, a ddylem ddwyn gwendidau y rhai analluog, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.
2Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog yn yr hyn sydd dda er adeiladaeth.
3Canys Crist nis boddhâodd ef ei hun, eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddant di a syrthiasant arnaf fi.
4Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd a dyddanwch yr Ysgrythyrau y cawsem obaith.
5A Duw yr amynedd a'r dyddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu,
6fel yn unfryd o un genau y gogoneddoch Dduw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist.
7Am hynny derbyniwch eich gilydd, megys ag y derbyniodd Crist chwithau, er gogoniant Duw.
8Canys yr wyf yn dywedyd i Grist gael ei wneyd yn weinidog yr Enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhâd yr addewidion i'r Tadau,
9ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn ysgrifenedig,
O achos hyn y canmolaf di ym mhlith y Cenhedloedd, ac i'th enw y canaf.
10A thrachefn y mae yn dywedyd,
Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.
11A thrachefn,
Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodfored yr holl bobloedd ef.
12A thrachefn y mae Esaia yn dywedyd,
Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd.
13Yn awr Duw y gobaith a'ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch helaeth mewn gobaith yng ngallu yr Yspryd Glân.
Achlysur yr Epistol.14Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn coelio am danoch chwi, eich bod chwithau hefyd yn llawn daioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, ac hefyd yn abl i gynghori eich gilydd.
15Ond ysgrifennwyf yn fwy hyf o fesur attoch, fel yn eich adgoffa chwi o herwydd y gras a roddwyd i mi oddiwrth Dduw
16i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, gan wasanaethu efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio yn yr Yspryd Glân.
17Y mae gennyf gan hynny fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau a berthyn i Dduw.
18Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o'r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd‐dod y Cenhedloedd, mewn gair a gweithred,
19yng ngallu arwyddion a rhyfeddodau, yng ngallu yr Yspryd Glân; fel ag o Jerusalem a'r wlad o amgylch hyd Illyricum, yr wyf wedi llawn‐bregethu efengyl Crist;
20ac y mae i mi uchelgais i bregethu yn y modd hyn, nid lle yr enwyd Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall;
21eithr fel y mae yn ysgrifenedig,
I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwy a welant,
A'r rhai ni chlywsant a ddeallant.
22Am hynny hefyd y'm lluddiwyd lawer o weithiau i ddyfod attoch chwi;
23eithr yr awrhon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod attoch;
24pa bryd bynnag yr elwyf i'r Hispaen, — canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf, i fesur, wedi cael llawn fwynhâd gyda chwi —
25eithr yn awr yr wyf yn myned i Jerusalem, gan weini i'r saint;
26canys rhyngodd bodd i Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gyfraniad i'r tlodion o'r saint sydd yn Jerusalem;
27canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dyledwyr hwy ydynt; canys os yn eu pethau ysprydol hwy y cyfrannogodd y Cenhedloedd, hwythau hefyd ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.
28Wedi i mi gan hynny orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a äf heibio trwoch chwi i'r Hispaen;
29a gwn pan ddelwyf attoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
30Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gyd‐ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau drosof fi at Dduw,
31fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufudd yn Judea, ac y byddo fy ngwasanaeth, yr hwn sydd i Jerusalem, yn dderbyniol gan y saint:
32fel y delwyf attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, a chyda chwi y caffwyf orphwysdra.
33A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.