1A chan gyd‐weithio ag ef
, yr ydym yn attolygu na dderbynioch ras Duw yn ofer2(canys dywed efe,
Mewn amser cymmeradwy y'th wrandewais,
Ac yn nydd iachawdwriaeth y cynnorthwyais di.
Wele, yn awr yr amser cymmeradwy! Wele, yn awr ddydd iachawdwriaeth!)
3heb roddi o honom ddim tramgwydd mewn unrhyw beth, fel na feier ar y weinidogaeth;
4eithr ym mhob peth yn cymmeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn amynedd lawer, mewn cystuddiau,
5mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialen‐nodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn llafuriau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau;
6mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hir‐ymaros, mewn hynawsedd, yn yr Yspryd Glân, mewn cariad diragrith;
7yng ngair y gwirionedd, yng ngallu Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddehau ac ar aswy,
8trwy barch ac ammharch, trwy anghlod a chlod; fel twyllwyr, ac yn cirwir!
9fel yn anadnabyddus, ac yn hollol adnabyddus! fel yn meirw, ac, wele, yn byw! fel yn cael ein dysgyblu, ac heb ein lladd!
10fel yn cael ein tristâu, ond yn wastad yn llawenhâu! fel yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer! fel heb ddim gennym, ac yn meddiannu pob peth!
Yr ymddygiad a hawlia y fath weinidogaeth11Ein genau a agorwyd wrthych chwi, o Gorinthiaid, ein calon a eangwyd.
12Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich serchiadau eich hunain.
13Ac fel ad‐daliad (fel wrth blant yr wyf yn dywedyd), eanger chwithau hefyd.
14Na ieuer chwi yn annghymharus â rhai digred: canys pa gyd‐gyfrannogaeth sydd rhwng cyfiawnder ac annghyfraith? neu pa gymmundeb sydd rhwng goleuni a thywyllwch?
15a pha gydgordiad rhwng Crist a Belial? neu pa gyfran i gredadyn gydag annghredadyn?
16a pha gydsyniad rhwng cyssegr Duw ag eilunod? canys cyssegr y Duw byw ydym ni, fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf ynddynt; ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi;
17gan hynny,
Deuwch allan o'u canol ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd,
Ac na chyffyrddwch â pheth aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi.
18Ac a fyddaf yn dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.