1Y mae yn rhaid i mi ymffrostio, er nad yw yn fuddiol; ond deuaf at weledigaethau a dadguddiadau yr Arglwydd (ai yn y corph, nis gwn; ai allan o'r corph, nis gwn; Duw a ŵyr), gipio y cyfryw un hyd y drydedd nef.
3Ac yr wyf yn adwaen y cyfryw ddyn (ai yn y corph, ai ar wahân â'r corph, nis gwn, Duw a ŵyr),
4a gipiwyd i Baradwys, ac a glywodd eiriau annhraethadwy, y rhai nid yw bosibl y dadguddiadau, rhoddwyd i mi swmbwl Satan i'm cernodio.
8Am hwn, mi a attolygais ar yr Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi;
9ac y mae efe wedi dywedyd wrthyf, Digon i ti fy ngras i; canys nerth a berffeithir mewn gwendid. Gyda'r llawenydd pennaf gan hynny yr ymffrostiaf yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y cysgodo.
Cred‐lythyrau Apostol.11Aethum yn ffol; chwychwi a'm gorfodasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi; canys ni fum mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol! Er nad wyf fi ddim,
12arwyddion Apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi mewn pob amynedd, trwy arwyddion a rhyfeddodau a nerthoedd.
13Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, tuhwnt i'r eglwysi eraill, oddieithr na bum i fy hun yn faich arnoch? Maddeuwch i mi yr annghyfiawnder hwn!
14Wele, hon yw y drydedd, ai llai y'm cerir i?
16Ond bydded felly: ni phwysais i arnoch; eithr gan fod o'r dechreu yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy ddichell.
17A gymmerais i unrhyw fantais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a ddanfonais attoch?
18Deisyfais ar Titus, ac mi a anfonais y brawd gydag ef. A gymmerodd Titus unrhyw fantais arnoch? Oni rodiasom wrth yr un Yspryd, yn yr un llwybrau?
19Er ys meityn yr ydych yn tybied mai amddiffyn ein hunain ydym wrthych. Ger bron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru: a'r oll, anwyliaid, er mwyn eich adeiladaeth chwi.
20Canys yr wyf yn ofni, rhag mewn un modd, pan ddelwyf, i mi eich cael nid fel y dymunwn, a minnau i'm cael gennych chwithau yn gyfryw ag na ddymunech chwi: rhag mewn un modd fod cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonnau, enllibiadau, ensyniadau, ymchwyddiadau, terfysgau:
21rhag, pan ddelwyf drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gŵydd, a galaru o honof am lawer ydynt wedi pechu eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.