1Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, gyd â'r wawr gynaraf, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a barotoisant.
2A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.
3Ond wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4A bu, a hwy mewn dyryswch yn sydyn gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.
5Ac wedi iddynt ddychrynu, a gostwng eu hwynebau i'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio yr hwn sydd yn fyw yw yma: ond efe a gyfododd:
6cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych ac efe eto yn Galilea,
7gan ddywedyd, Rhaid yw i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi],
9ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant yr holl bethau i'r Un‐ar‐Ddeg, ac i'r lleill oll:
10Mair Magdalen, a Johanna, a Mair mam Iago oeddynt hwy: a'r gwragedd eraill gyd â hwynt a ddywedasant wrth yr Apostolion y pethau hyn.
11A'r geiriau hyn a ymddangosent yn eu golwg fel ffiloreg; ac nid oeddynt yn eu credu.
12Eithr yn unig: ac efe a aeth ymaith i'w gartref, gan ryfeddu am y peth a ddarfuasai.
Ymddangosiad i ddau ddysgybl: eu hanobaith hwy, a thystiolaeth yr Ysgrythyr13Ac wele, dau o honynt oedd yn myned yr un dydd i bentref, yr hwn oedd dri‐ugain ystâd o Jerusalem, o'r enw Emmaus.
14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddygwyddasent.
15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymddadleu, yr Iesu ei hun hefyd, gan neshâu, oedd yn rhodio gyd â hwynt:
16eithr eu llygaid hwynt a rwystrwyd fel nas adwaenent ef.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa eiriau yw y rhai yr ydych yn cyfnewid â'ch gilydd, wrth rodio? A hwy a safasant yn wyneb drist.
18Ac un, o'r enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn byw fel ymdeithydd yn Jerusalem yw y trydydd dydd iddo er pan ddygwyddodd y pethau hyn.
22Er hyny, hyd y nod rhai gwragedd o honom ni a'n llanwasant â syndod, wedi iddynt fyned gyd â'r wawr at y bedd;
23a phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd eu bod hyd y nôd wedi gweled gweledigaeth o Angelion, y rhai sydd yn dywedyd ei fod ef yn fyw.
24A rhai o'r rhai sydd gyd â ni a aethant ymaith at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O rai anneallus o galon i gredu ar sail yr holl bethau a lefarodd y Proffwydi!
26Onid y rhai hyn yr oedd yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a myned i'w Ogoniant ac o'r holl Broffwydi, efe a esboniodd yn drwyadl iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.
28A hwy a nesasant i'r pentref lle yr oeddynt yn myned: ac efe a ymddangosodd fel pe byddai yn myned yn mhellach.
29A hwy a'i cymhellasant wedi darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt.
30A bu, fel yr oedd efe yn eistedd i lawr i fwyta gyd â hwynt, efe a gymmerodd y bara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a roddodd iddynt.
31A'u llygaid hwy a lawn‐agorwyd, a hwy a'i hadwaenasant ef: ac efe a aeth yn Anweledig oddi wrthynt.
32A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon yn llosgi ynom fel yr oedd efe yn llefaru wrthym ar y ffordd pan yr oedd efe yn llwyr-agoryd i ni yr Ysgrythyrau?
33A hwy a gyfodasant yr awr hono, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr Un‐ar‐Ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt,
34yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd mewn gwirionedd, ac a ymddangosodd i Simon ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywed wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37Hwythau, wedi brawychu ac yn llawn ofn, oeddynt yn tybied eu bod yn craffu ar yspryd.
38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych wedi eich cythryblu, ac o herwydd paham y mae amheuon yn cyfodi yn eich calon?
39Gwelwch fy nwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed.
41Ac a hwy eto heb gredu o lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes genych yma beth a ellir fwyta?
42A hwy a roisant iddo ran o bysgodyn wedi ei rostio.
43Ac efe a'i cymmerodd, ac a'i bwytäodd yn eu gŵydd hwynt.
44Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma fy ngeiriau a ddywedais i chwi, tra yr oeddwn eto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawnu pob peth sydd wedi ei ysgrifenu yn Nghyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau, am danaf fi.
45Yna efe a lwyr‐agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau;
46ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y mae wedi ei ysgrifenu, bod y Crist i ddyoddef, ac i adgyfodi o feirw y trydydd dydd,
47a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i gael eu pregethu ar sail ei enw ef i'r holl genedloedd, gan ddechreu o Jerusalem.
48Chwychwi ydych dystion o'r pethau hyn.
49Ac wele, yr wyf yn anfon allan Addewid yn y Ddinas hyd nes y gwisger chwi â gallu o'r Uchelder.
Yr Esgyniad[Marc 16:19, 20; Act 1:6–14]50Ac efe a'u harweiniodd hwynt allan hyd eu bod gyferbyn a Bethania, ac efe a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.
51A bu, tra yr ydoedd efe yn eu bendithio hwynt, yr oedd efe yn sefyll ar wahân â hwynt, ac a ddygwyd i fyny i'r Nef.
52A hwy a aethant ar eu gliniau mewn addoliad iddo, ac a ddychwelasant i Jerusalem gyd â llawenydd mawr:
53ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml yn bendithio Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.