1A dygwyddodd, tra yr oedd Apollos yn Corinth, wedi i Paul dramwy trwy y parthau uchaf, ddyfod o hono i Ephesus, a chael rhyw ddysgyblion;
2ac efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Na, ni chawsom ni gymaint a chlywed a oes Yspryd Glân.
3Ac efe a ddywedodd, I ba beth gan hyny y'ch bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd a bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, hyny yw, yn yr Iesu
5A phan glywsant hyn, hwy a fedyddiwyd i enw yr Arglwydd Iesu.
6A Phaul yn gosod dwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant a thafodau, ac a broffwydasant.
7Ac yr oeddent oll tua deuddeg gwr.
Dysgeidiaeth a gwyrthiau Paul yn Ephesus. Ymgais meibion Scefa, 8–20.8Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hyf am dri mis, gan ymresymu a pherswadio ynghylch Teyrnas Dduw.
9A phan yr oedd rhai wedi ymgaledu ac yn anufydd, gan ddywedyd yn ddrwg am Y Ffordd oddiwrthynt, ac a wahanodd y dysgyblion, gan ymresymu yn ddyddiol yn Ysgol Tyrannus.
10A bu hyn am ddwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb oedd yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iuddewon a Groegiaid hefyd.
11A Duw a wnaeth weithredoedd nerthol anarferol trwy ddwylaw Paul:
12hyd oni ddygid ymaith at y cleifion oddiwrth ei gorph napcynau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan.
13A rhai hefyd o'r Iuddewon crwydrol, consurwyr, a ymgymerasant ag enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr wyf yn eich tynghedu trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.
14Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iuddew, Arch‐offeiriad, yn gwneuthur hyn.
15A'r yspryd drwg a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaenwyf, eithr pwy ydych chwi?
16A'r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a neidiodd arnynt, a feistrolodd y ddau, ac a orthrechodd yn eu herbyn, fel y ffoisant hwy allan o'r tŷ hwnw yn noethion ac yn archolledig.
17A hyn a aeth yn hyspys i bawb, Iuddewon a Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.
18A llawer o'r rhai oedd wedi credu a ddaethant gan gyffesu a dadgan eu gweithredoedd.
19Ac amryw o'r rhai a arferasant swyn‐ddewiniaeth a gasglasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yn ulw yn ngwydd pawb: a hwy a gyfrifasant eu pris hwynt, ac a'i cawsant yn ddeng mil a deugain o ddarnau arian.
20Mor rymus y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd!
Y Cythrwfl yn Ephesus, 21–41.21A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr yspryd, wedi iddo dramwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
22Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, Timothëus ac Erastus, efe ei hun a ddaliodd yn mlaen beth amser yn Asia.
23A dygwyddodd yn y tymhor hwnw gynhwrf nid bychan ynghylch y Ffordd;
24canys rhyw Ddemetrius arian o Diana, a roddai i'r crefftwyr waith nid ychydig;
25y rhai a gynullodd efe ynghyd a'r rhai oeddent weithwyr y cyfryw bethau, ac a ddywedodd, O wyr, chwi a wyddoch mai allan o'r gwaith hwn y mae i ni lwyddiant;
26a chwi a welwch ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr bron drwy holl Asia, i'r Paul hwn ddarbwyllo a gŵyr‐droi lluaws mawr, gan ddywedyd nad ydyw y rhai a wneir â dwylaw yn dduwiau.
27Ac nid yn unig y mae perygl fod hon, sef ein trafnidiaeth ni, yn myned yn wrthodedig, ond hefyd fod Teml y dduwies fawr Diana i gael ei chyfrif yn ddyddim, a bod hithau ar gael ei thynu i lawr o'i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a'r byd trigianol yn ei haddoli.
28A phan glywsant, a myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid!
29A'r ddinas a lanwyd â'r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i'r chwareu‐dy, wedi cipio gyda hwynt Gaius ac Aristarchus Paul.
30A Phaul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y dysgyblion iddo.
31A rhai hefyd o'r Asiarchiaid, y rhai oeddent gyfeillion iddo, gan anfon ato a ddeisyfent arno nad anturiai, fyned i'r chwareu‐dŷ.
32Rhai gan hyny a waeddent un peth ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynulleidfa wedi ei therfysgu, a'r mwyrif ni wyddent paham y daethent ynghyd.
33Eithr hwy a gymhellasant yn mlaen Alexander o'r dyrfa, yr Iuddewon yn ei wthio ef yn mlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law, ac a fynasai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl.
34Eithr pan wybuant mai Iuddew oedd efe, daeth un lef oddiwrth bawb, y rhai a waeddasent megys am ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
35Ac wedi i'r Cofiadur lonyddu y dyrfa, dywed, O wyr Ephesus, canys pwy un yn mhlith dynion sydd na ŵyr fod Dinas yr Ephesiaid yn geidwad Diana Fawr a'r ddelw
, a syrthiodd o'r Nef.36Gan fod y pethau hyn gan hyny yn anwadadwy, chwi a ddylech fod yn dawel o'r dechreu, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll.
37Canys dygasoch yma y gwyr hyn, y rhai nid ydynt nac yn yspeilwyr temlau nac yn gablwyr ein duwies ni.
38Os oes gan hyny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef unrhyw fater yn erbyn neb, cynhelir brawd-lysoedd, ac y mae rhaglawiaid: bydded iddynt ddwyn achwyniad yn erbyn eu gilydd.
39Ond os ceisiwch unrhyw beth yn mhellach, yn y Gynulleidfa gyfreithlon y penderfynir hyny.
40Canys hyd yn nod yr ydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o derfysg am y dydd heddyw, heb ddim achos o'r dechreu, am yr hwn ni fyddwn alluog i roddi rheswm, sef am yr ymgyrch hwn.
41Ac wedi iddo ddywedyd hyn, gollyngodd ymaith y Gynulleidfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.