1Ac yn nghyflawniad Dydd y Pentecost yr oeddynt hwy oll ynghyd yn yr un lle.
2A daeth yn ddisymwth swn o'r Nef megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dy lle yr oeddynt yn eistedd.
3Ac ymddangosodd iddynt dafodau rhanedig, megys o dân, ac a eisteddodd ar bob un o honynt.
4A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru a thafodau eraill, fel yr oedd yr Yspryd yn rhoddi iddynt ddawn llafar.
5Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem Iuddewon, gwyr duwiol‐frydig, o bob cenedl sydd dan y Nef.
6A phan ddygwyddodd y llais hwn, y lliaws a ddaethant ynghyd ac a ddyryswyd, o herwydd bod pob un yn eu clywed yn llefaru yn ei briod‐iaith ei hun.
7A synasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn sydd yn llefaru yn Galileaid?
8A pha fodd yr ydym yn clywed, pob un yn ein priod‐iaith ein hunain, yn yr hon y'n ganed?
9Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a'r rhai yn trigo yn Mesopotamia, yn Judea, a Cappadocia, yn Pontus ac Asia,
10yn Phrygia a Pamphylia, yn yr Aipht a pharthau Lybia sydd tua Cyrene; a'r dyeithriaid o Rufain, — yn Iuddewon a Phroselytiaid —
11Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain bethau mawrion Duw.
12A hwy oll a synasant ac a gythryblwyd, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a fyn hyn fod?
13Eithr eraill, gan gellwair a ddywedasant, Gorlawn o win newydd ydynt.
Anerchiad Petr.14Eithr Petr, gan sefyll i fyny gyda'r un‐ar‐ddeg, a gododd ei lais, ac a lefarodd yn rymus wrthynt, O wyr o Iuddewon, a phawb sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded hyn yn hyspys i chwi, a rhoddwch glust i'm geiriau.
15Canys nid yw y rhai hyn yn feddw, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegyd y drydedd awr o'r dydd yw hi.
16Eithr hyn yw yr hyn a lefarwyd trwy y Prophwyd Joel:
17A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw,
Y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd,
A prophwyda eich meibion a'ch merched,
A'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau,
A'ch henaf‐gwyr a freuddwydiant freuddwydion:
18Ac, yn wir, ar fy ngweision ac ar fy llaw‐forwynion yn y dyddiau hyny y tywalltaf o'm Hyspryd, ac y prophwydant.
19A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod,
Ac arwyddion ar y ddaear isod:
Gwaed, a thân, a tharth mwg:
20Yr haul a droïr yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed,
Cyn dyfod Dydd Mawr a nodedig yr Arglwydd.
21A bydd, pwy bynag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd gadwedig.
22O wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Nazaread, gwr wedi ei gymeradwyo o Dduw i chwi trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo Ef yn eich canol chwi, megys y gwyddoch chwi:
23Hwn, wedi ei roddi i fyny trwy benderfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, chwi, gan ei groeshoelio trwy law rhai di‐ddeddf, a laddasoch:
24Hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau dirboenau angeu, canys nid oedd bosibl ei ddal yn dyn ganddo.
25Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Gwelais o fy mlaen yr Arglwydd ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm syfler.
26Am hyny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod;
Yn mhellach, fy nghnawd hefyd a driga mewn gobaith;
27O herwydd na adewi fy enaid i Hades,
Ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
28Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd bywyd;
Llenwi fi â llawenydd â'th wynebpryd.
29O wyr Frodyr, gadewer i mi ddywedyd yn hyf wrthych ynghylch y Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn.
30Am hyny ac efe yn brophwyd, ac yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef y gosodai Efe un ar ei orsedd;
31efe, gan rag‐weled, a lefarodd am Adgyfodiad y Crist, na adawyd Ef i Hades, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth.
32Yr Iesu hwn a adgyfododd Duw, o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33Gan hyny, wedi ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn o hono gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed.
34Oblegyd nid Dafydd a esgynodd i'r nefoedd, eithr efe ei hun a ddywed, Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy Neheulaw,
35Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed‐fainc i'th draed.
36Am hyny, gwybydded holl dy Israel yn sicr ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, sef yr Iesu hwn, yr hwn a groeshoeliasoch chwi.
Yr effaith ar y bobl — 37–41.37A hwythau, wrth glywed hyn, a ddwys‐bigwyd yn eu calon; ac a ddywedasant wrth Petr a'r Apostolion eraill, Beth a wnawn ni, O Wyr Frodyr?
38A Phetr a ddywedodd
wrthynt, Edifarhêwch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau; a chwi a dderbyniwch rodd yr Yspryd Glân.39Canys i chwi y mae yr Addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd yn mhell, cynifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni ato.
40Ac â llawer o ymadroddion eraill y gorchymynodd efe yn ddifrifol ac y cynghorodd hwynt, gan ddywedyd, Achuber chwi rhag y genedlaeth wyrgam hon.
41Gan hyny yn wir y rhai a dderbyniasant ei ymadrodd ef a fedyddiwyd, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnw ynghylch tair mil o eneidiau.
Teithi y dychweledigion cyntaf, 42–47.42Ac yr oeddynt yn glynu yn nysgeidiaeth yr Apostolion, yn y Gymdeithas, yn Nhoriad y Bara, ac yn y Gweddïau.
43Ac yr oedd ofn ar bob enaid, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd trwy yr Apostolion.
44A'r oll o'r rhai a gredent oeddynt yn yr un lle, ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin;
45ac yr oeddynt yn gwerthu eu meddiannau tirol a'u da, ac yn eu rhanu hwynt i bawb, fel yr oedd unrhyw un mewn eisieu.
46Ac yn ddyddiol yr oeddynt yn glynu o un meddwl, yn y Deml, ac yn tori bara gartref, gan gymeryd eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon,
47gan foli Duw a chael ffafr gyda'r holl bobl. A'r Arglwydd oedd yn ychwanegu at eu gilydd yn ddyddiol y rhai oeddynt yn cael eu hachub.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.