Ioan 3 - New Testament with Notes by William Edwards 1915

Crist a Nicodemus: y rheidrwydd o enedigaeth newydd.

1Yn awr yr oedd dyn o'r Phariseaid, a'i enw Nicodemus, penaeth yr Iuddewon:

2hwn a ddaeth ato ef yn y nos, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai Athraw ydwyt wedi dyfod allan oddiwrth Dduw: canys ni all neb wneuthur yr arwyddion hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef.

3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o'r newydd, ni ddichon efe weled Teyrnas Dduw.

4Y mae Nicodemus yn dywedyd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen ddyn? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith a'i eni?

5Iesu a atebodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o ddwfr a'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw.

6Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd sydd gnawd, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Yspryd sydd yspryd.

7Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn rhaid eich geni chwi o'r newydd.

8Y mae yr Yspryd yn anadlu lle yr ewyllysio, a thi a glywi ei lais ef, ond nid ydwyt yn gwybod o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: yr un modd y mae pob un sydd wedi ei eni o'r Yspryd.

Crist yn ei berson, ei waith, a'i amcan.

9Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?

10Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho. A wyt ti yn Athraw i Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?

11Yn wir, yn wir, meddaf i ti, yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn yr ydym wedi ei weled yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.

12Os dywedais i chwi y pethau a wneir ar y ddaear, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi y pethau a wneir yn y Nefoedd, y credwch?

13Ac nid oes neb wedi esgyn i'r Nef, ond yr hwn a ddisgynodd allan o'r Nef, Mab y Dyn,.

14Ac megys y dyrchafodd Moses y Sarff yn y Diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn:

15fel y caffo pwy bynag a gredo ynddo ef fywyd tragywyddol.

16Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei Unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.

17Canys ni ddanfonodd Duw y Mab i'r byd, i farnu y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.

18Nid yw yr hwn sydd yn credu ynddo ef yn cael ei farnu: eithr yr hwn nid yw yn credu sydd wedi ei farnu eisioes, o herwydd nad ydyw wedi credu yn enw Unig‐anedig Fab Duw.

19A hon yw y farnedigaeth: Y mae y Goleuni wedi dyfod i'r byd, a dynion a garasant y Tywyllwch yn hytrach na'r Goleuni; canys eu gweithredoedd oeddynt ddrwg.

20Canys pob un a'r sydd yn ymarfer pethau iselwael sydd yn cashâu y Goleuni, ac nid yw yn dyfod at y Goleuni, fel na ddygid ei weithredoedd i brawf.

21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur y gwirionedd sydd yn dyfod i'r Goleuni, fel yr eglurhâer ei weithredoedd ef, canys yn Nuw y maent wedi eu gweithio allan.

Bedydd Ioan, a'i ddysgeidiaeth am Grist.

22Wedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a'i Ddysgyblion i wlad Judea; ac yno yr arosodd efe gyd â hwynt, ac a fedyddiodd.

23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno; a hwy a ddaethant ac a fedyddiwyd.

24Canys nid oedd Ioan eto wedi ei fwrw i'r carchar.

25Cyfododd gan hyny ddadl o ran Dysgyblion Ioan âg Iuddew ynghylch puredigaeth.

26A daethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r hwn yr wyt ti wedi tystiolaethu, wele, y mae hwn yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.

27Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r Nef.

28Chwychwi eich hunain ydych yn tystiolaethu i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Crist, eithr fy mod i wedi fy anfon o'i flaen ef.

29Yr hwn sydd ganddo y briod‐ferch yw y priod‐fab: ond cyfaill y priod‐fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr o herwydd llais y priod‐fab: fy llawenydd hwn gan hyny sydd wedi ei gyflawnu.

30Rhaid iddo ef gynyddu, ond i mi leihâu.

31Yr hwn sydd yn dyfod oddi uchod sydd goruwch pawb: yr hwn sydd o'r ddaear sydd o'r ddaear, ac o'r ddaear y mae yn llefaru; yr hwn sydd yn dyfod o'r Nef sydd goruwch pawb.

32Yr hyn y mae efe wedi ei weled ac a glywodd, hyn y mae efe yn ei dystiolaethu, a'i dystiolaeth ef nid oes neb yn ei derbyn.

33Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef a seliodd fod Duw yn wir.

34Canys yr hwn a anfonodd Duw, geiriau Duw y mae yn eu llefaru; oblegyd nid wrth fesur y mae efe yn rhoddi yr Yspryd.

35Y mae y Tâd yn caru y Mab, ac wedi rhoddi pob peth yn ei law ef.

36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: ond yr hwn sydd yn anufyddhâu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help