1Ac efe a gyrhaeddodd i Derbe a Lystra, ac wele, yr oedd rhyw ddysgybl yno, o'r enw Timotheus, mab i wraig Iuddewig grediniol, ond i dâd o Roegwr,
2i'r hwn y tystiolaethid gan y brodyr yn Lystra ac Iconium.
3Paul a ewyllysiai hwn i fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerodd ac a'i henwaedodd ef o achos yr Iuddewon y rhai oedd yn y lleoedd hyny, canys yr oeddent oll yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad ef.
4Ac fel yr ymdeithient trwy y dinasoedd, traddodent iddynt y gorchymynion i'w cadw, ar y rhai y penderfynwyd gan yr Apostolion a'r Henuriaid y rhai oedd yn Jerusalem.
5Gan hyny yn wir yr eglwysi a gadarnhawyd yn y Ffydd, ac a amlhasant mewn rhifedi yn ddyddiol.
6A hwy a dramwyasant trwy Phrygia a gwlad Galatia, wedi iddynt gael eu rhwystro gan yr Yspryd Glân i lefaru y Gair yn Asia;
7a phan ddaethant gyferbyn a Mysia, hwy a gynygiasant fyned i Bithynia, ond ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.
8Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Troas.
9A gweledigaeth yn ystod y nos a ymddangosodd i Paul: Rhyw wr o Macedonia oedd yn sefyll, ac yn deisyfu arno ac yn dywedyd, Tyred trosodd i Macedonia, a chymhorth ni.
10A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gasglu yn sicr alw o Dduw nyni i efengylu iddynt hwy.
Paul yn Philippi: troedigaeth Lydia, 12–15.11Wedi hwylio gan hyny o Troas, ni a redasom yn syth i Samothracia, a thranoeth i Neapolis;
12ac oddiyno i Philippi, dinas o Macedonia, y gyntaf o'r rhan‐barth, ac yn drefedigaeth: ac ni a fuom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau.
13Ac ar y Dydd Sabbath ni a aethom tu allan i'r porth, at lan afon, lle y tybiem yr oedd Lle Gweddi; ac wedi eistedd ni a lefarasom wrth y gwragedd oedd wedi dyfod ynghyd.
14A rhyw wraig o'r enw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, un yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal sylw ar y pethau a leferid gan Paul.
15A phan fedyddiwyd hi a'i thy, hi a ddeisyfodd, gan ddywedyd, Os ydych wedi barnu fy mod i yn gredadyn yn yr Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac aroswch. A hi a'n cymhellodd yn daer.
Paul a'r ddewines, 16–18.16A bu, fel yr oeddem yn myned i'r Lle Gweddi, i ryw lances, a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod a ni; yr hon a ddygai elw mawr i'w meistriaid trwy ddewinio.
17Hon, gan ddylyn Paul a ninau, a lefodd allan, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegu i chwi ffordd Iachawdwriaeth.
18A hyn hi a wnaeth dros ddyddiau lawer. Ond Paul, wedi ei flino allan, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi. Ac efe a ddaeth allan yr awr hono.
Y Carchar a'r Canu: Y Daeargryn a'r Droedigaeth, 19–34.19A'i meistriaid hi yn gweled fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant i'r farchnadfa o flaen penaethiaid;
20a phan ddygasant hwynt at y llywodraethwyr milwrol, hwy a ddywedasant, Y dynion hyn sydd yn llwyr‐gythryblu ein dinas, a hwy yn Iuddewon,
21a chyhoeddasant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlon i ni eu derbyn a'u gwneuthur, a ni yn Rufeinwyr.
22A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn: a'r llywodraethwyr milwrol, gan rwygo eu dillad hwynt, a orchymynasant eu curo hwy â gwiâil.
23Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialenodiau hwy a'u bwriasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddyogel:
24yr hwn wedi derbyn y fath orchymyn, a'u bwriodd i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed yn sicr yn y cyffion.
25A thua haner nos, Paul a Silas pan yn gweddio a ganent hymnau i Dduw, a'r carcharorion oeddent yn gwrando arnynt;
26ac yn ddisymwth mawr, fel y siglwyd sylfaeni y carchardy, ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a ryddhawyd.
27A cheidwad y carchar wedi deffro o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi.
28Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni oll yma.
29Ac wedi galw am oleu, efe a neidiodd i mewn, a than grynu efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30ac a'u harweiniodd hwynt y tu allan, ac a ddywedodd, O Feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?
31A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi di a'th dŷ.
32A hwy a lefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyd a phawb oedd yn ei dŷ.
33Ac efe a'u cymerodd hwy gydag ef yr awr hono o'r nos, ac a olchodd eu briwiau hwynt; ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn ebrwydd.
34Hefyd, efe a'u harweiniodd hwy i fyny i'w dŷ, ac a osododd fwyd ger eu bron, ac a orfoleddodd gyda'i holl dŷ, gan eu bod wedi credu yn Nuw.
Paul a Silas yn hawlio eu hiawnderau fel dinasyddion Rhufeinig, ac yn ymadael o Philippi, 35–40.35A'r dydd wedi dyfod, y llywodraethwyr milwrol a anfonasant y rhingyllwyr, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyn.
36A Cheidwad y Carchar a fynegodd y geiriau wrth Paul, Danfonodd y Llywodraethwyr milwrol am eich gollwng yn rhyddion: yn awr gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.
37Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Y maent wedi ein fflangellu yn gyhoeddus, heb ein heuog‐farnu, a ninau yn Rufeinwyr, a bwriasant ni i garchar; ac yn awr, a ydynt yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond bydded iddynt ddyfod eu hunain, a'n dwyn ni allan.
38A'r rhingyllwyr a fynegasant i'r Llywodraethwyr milwrol y geiriau hyn, a hwy a ofnasant pan glywsant, Rhufeinwyr ydynt;
39a hwy a ddaethant ac a ddeisyfasant arnynt; ac wedi eu harwain allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o'r ddinas.
40Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia; ac wedi iddynt weled y brodyr, hwy a'u calonogasant, ac a aethant allan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.